Damwain: Un yn yr ysbyty

Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau far ar ffordd yr A40 yn Hwlffordd ddydd Mawrth.

Cafodd dau griw tân eu galw i'r ddamwain ddigwyddodd toc cyn 8:30am.

Cafodd un person ei ryddhau o'i gar gan y diffoddwyr tân a chafodd ei gludo i'r ysbyty.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.