FIFA: Cymru yn disgyn naw lle

Cymru v Yr Alban Hydref 2012 Image copyright Getty Images
Image caption Wedi curo'r Alban fis Hydref bydd Cymru yn teithio yno fis Mawrth

Mae Cymru wedi disgyn naw lle ar restr detholion y byd.

Yn rhestr ddiweddaraf y corff rheoli pêl-droed, FIFA, mae Cymru i lawr i safle 66, pedwar lle uwchben Yr Alban sydd yn yr un grŵp â nhw yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan Pêl-Droed y Byd 2014.

Bydd Cymru'n herio'r Alban oddi-cartref yn eu gêm nesaf ar Fawrth 22 2013 cyn chwarae yn erbyn Croatia yn Stadiwm Liberty bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Yn ôl rhestr FIFA mae Croatia yn y 10fed safle ar hyn o bryd.

Y timau eraill yng ngrŵp Cymru yw Gwlad Belg a Macedonia.

Mae Gwlad Belg wedi codi 10 safle i safle 20 ac mae Macedonia wedi esgyn 21 lle i safle 83.

Bydd Cymru yn herio Awstria yn Abertawe ar Chwefror 6 2013 mewn gêm gyfeillgar.

Rhestr detholion FIFA - Tachwedd 2012
Safle Pwyntiau Newid
1. Sbaen 1564 0
2. YrAlmaen 1421 0
3. Yr Ariannin 1349 +1
4. Portiwgal 1178 -1
5. Yr Eidal 1169 +3
6. Lloegr 1167 -1
-----------------------------------------------------------------------------------------
36. Gweriniaeth Iwerddon 682 -6
66. CYMRU 497 -9
70. Yr Alban 488 -14
88. Gogledd Iwerddon 356 +17

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.