Carchar wedi ei ohirio wedi sylw sarhaus am April Jones

Mae dyn ifanc 18 oed wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio ar ôl gwneud sylwadau sarhaus ar y we.

Roedd sylwadau Sam Busby o St Johns yng Nghaerwrangon ar wefan gymdeithasol Facebook yn ymwneud ag April Jones, y ferch 5 oed a gafodd ei chipio o du allan i'w chartref ym Machynlleth fis Hydref.

Fe wnaeth Busby gyfadde i gyhuddiad o ddefnyddio rhwydwaith gyfathrebu cyhoeddus i anfon neges oedd yn hynod ffiaidd neu o natur anweddus, bygythiol a brwnt.

Cafodd ei ddedfrydu i chwe wythnos o garchar wedi ei ohirio am 18 mis.

Fe'i gorfodwyd i wneud 200 awr o wasanaeth cymunedol ac mae o'n gorfod aros i mewn rhwng 7pm a 7am am wyth wythnos.

Cafodd ddirwy o £165 o gostau hefyd.

Yn y cyfamser cafodd dyn 20 oed o Chorley yn Sir Gaerhirfryn ei ddedfryd o 12 wythnos dan glo ei gwtogi.

Roedd o wedi rhoi sylwadau sarhaus ar wefan Facebook yn sgil diflaniad April.

Fe wnaeth y barnwr a dau ynad heddwch yn Llys y Goron Preston gwtogi'r ddedfryd i wyth wythnos.

Mae Mark Bridger, 46 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones.

Cafodd ei gyhuddo o'i chipio yn ogystal â cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa tan yr achos llys fis Ionawr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.