Wythnos olaf ymgyrchu ar gyfer isetholiad De Caerdydd a Phenarth

Street in Cardiff South and Penarth constituency Image copyright Steve Duffy
Image caption De Caerdydd a Phenarth yw'r etholaeth fwyaf yng Nghymru o ran poblogaeth

Mae'r ymgeiswyr yn isetholiad De Caerdydd a Phenarth wythnos o ymgyrchu ar ôl.

Bydd trigolion yn pleidleisio ddydd Iau nesaf i ddewis olynydd i'r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Alun Michael.

Mae Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru wedi datganoli yn 1999 wedi gadael San Steffan a'r sedd fu ganddo yno ers 25 mlynedd.

Mae Mr Michael wedi camu o'r neilltu i sefyll yn etholiad cyntaf Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, fydd yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod.

Amrywiol

Mae'r etholaeth yn un amrywiol sy'n cynnwys cymunedau fel Trebiwt a Grangetown yng nghanol y ddinas i ardaloedd mwy llewyrchus Penarth a'r ardal sydd wedi ei hail-ddatblygu'n helaeth o gwmpas Bae Caerdydd.

Dyma hefyd etholaeth fwyaf Cymru o safbwynt nifer y pleidleiswyr, gydag oddeutu 78,000 o bleidleiswyr.

Mae Llafur yn gwneud yn dda mewn arolygon barn yn genedlaethol, ac fe ddylai'r blaid fod yn hyderus o gadw'r sedd.

Ers i'r etholaeth gael ei chreu yn 1983, pan oedd y cyn-Brif Weinidog James Callaghan yn ei chynrychioli, does yr un blaid arall wedi ennill y sedd.

Mewn gwirionedd, does neb ond Llafur wedi cynrychioli de Caerdydd ers i Mr Callaghan gael ei ethol am y tro cyntaf yn 1945.

Enillodd Mr Michael yn Etholiad Cyffredinol 2010 gyda mwyafrif o 4,700 dros ei wrthwynebydd Ceidwadol.

'Hyderus'

Dywedodd ymgeisydd Llafur y tro hwn, Stephen Doughty, ei fod yn hyderus o gadw'r sedd, ond nad yw'n gorffwys ar ei rhwyfau.

"Rydym wedi bod allan bob dydd ers i mi gael fy newis yng nghanol mis Gorffennaf yn cyfarfod â phobl, teithio hyd a lled yr etholaeth, ac yn sicr dydw i ddim o'r farn y gallwch chi gymryd unrhyw beth yn ganiataol," meddai.

Ychwanegodd bod anfodlonrwydd gyda'r glymblaid Ceidwadwyr-Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn dod â phleidleiswyr yn ôl at Lafur.

Ond mae datganoli yn rhoi cyfle i'r pleidiau gwleidyddol daflu sen ar record ei gilydd.

Os fydd pobl yn dweud wrth yr ymgeisydd Ceidwadol, Craig Williams, eu bod yn anhapus gyda'r Gwasanaeth Iechyd, mae'n hapus i'w hatgoffa mai cyfrifoldeb Llywodraeth Llafur Cymru yw hwnnw.

Er mai swyddi a'r economi yw materion mawr y dydd, dywedodd bod datganoli yn ei gwneud yn haws iddo frwydro etholiad yng nghanol tymor seneddol.

"Mae gennym y Cynulliad Cenedlaethol yma lle mae Llafur yn dal mewn grym, ac yn dal yng ngofal nifer o faterion y mae pobl yn teimlo'n angerddol amdanyn nhw," meddai.

"Maen nhw yn dal yng ngofal iechyd, maen nhw yn dal yng ngofal addysg, a dyw'r canlyniadau sy'n dod allan o Gymru ddim yn ddisglair o gwbl."

'Llwybr cywir'

Dywedodd Bablin Molik, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, bod yr isetholiad wedi bod yn gyfle i'w phlaid gnocio drysau a goresgyn teimladau negyddol am y llywodraeth glymblaid yn San Steffan.

"Mae'r llywodraeth ar y llwybr cywir fel clymblaid," eglurodd.

"Dydyn ni heb fynd o un pegwn i'r llall.

"I ryw raddau mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dal y Ceidwadwyr yn ôl rhag bod yn rhy eithafol ar ôl cymryd yr awenau wedi llywodraeth Lafur am 13 mlynedd, ac rydym hefyd wedi cyflawni rhai o'n prif addewidion yn ystod etholiad 2010."

'Hau hadau'

Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Luke Nicholas, yn dweud bod pryder am y nifer fydd yn pleidleisio gan fod yr isetholiad yn digwydd ar yr un diwrnod ag etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru a Lloegr.

Ond mae'n gobeithio na fydd yr amseru, na newydd-deb ymgyrchu yn hwyr yn yr hydref, yn ei rhwystro rhag trosglwyddo'i neges fod ei blaid yn ennill tir yn y rhan yma o'r byd.

Dywedodd: "Rwy'n mynd i geisio ennill y sedd, ond wrth wneud hynny a rhedeg ymgyrch dda, rwyf hefyd yn gobeithio medru hau hadau ar gyfer y dyfodol, a dangos y bydd Plaid Cymru yn y dyfodol yn mynd i fod yn brif blaid yn ne Cymru, ac mewn ardaloedd trefol a dinesig fel Caerdydd a Phenarth."

  • Bydd Alun Michael yn sefyll yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ochr yn ochr â Michael Baker (Annibynnol), Caroline Jones (Ceidwadwyr) a Tony Verderame (Annibynnol).

Straeon perthnasol