Cytundeb ar gyllideb ddrafft Cymru

Currency
Image caption Roedd angen cefnogaeth aelodau o'r gwrthbleidiau er mwyn pasio'r gyllideb ddrafft

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi dod i gytundeb fydd yn caniatáu i gyllideb Cymru fynd drwy'r Cynulliad yn ddidramgwydd.

Roedd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi cyhoeddi'r gyllideb ddrafft fis diwethaf, ond gan nad oes gan Lafur fwyafrif clir yn y Cynulliad, roedd angen cefnogaeth un o'r gwrthbleidiau i'w phasio.

Dydd Iau, cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ddatganiad ar y cyd sy'n cadarnhau'r cytundeb.

Dim cyfaddawd

Wrth gyhoeddi ei chyllideb ddrafft gwerth £15 biliwn, dywedodd Ms Hutt nad oedd lle i gyfaddawdu gan nad oedd arian yn y coffrau i dalu am fesurau ychwanegol.

Ond dywedodd datganiad Mr Jones a Ms Wood: "Un o'r prif heriau sy'n ein hwynebu yw sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn cael cyfleoedd i gael y sgiliau cywir i wneud y gorau o'u cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

"I gydnabod yr her yma, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi dod i gytundeb fydd yn sicrhau y gall cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod gael ei gosod - cytundeb sy'n seiliedig ar sicrhau y bydd y cyfleoedd yma i'n pobl ifanc yn cael eu gwella.

Image caption Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt nad oedd lle i gyfaddawdu gyda'r gyllideb ddrafft

"Rydym wedi cytuno y bydd £20 miliwn yn ychwanegol yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb Ddrafft fydd yn cael ei thrafod ddydd Mawrth, Tachwedd 13, er mwyn cefnogi prentisiaethau yng Nghymru wedi eu targedu ar y grŵp oedran 16-24.

"Byddwn hefyd yn edrych ar bob cyfle i ychwanegu'r swm mwyaf o arian o'r Undeb Ewropeaidd ar adnoddau Llywodraeth Cymru.

"Byddwn hefyd yn sicrhau y bydd £20 miliwn pellach yn cael ei gynnwys yn y ffigyrau ar gyfer prentisiaethau ar gyfer 2014-15.

"Fe fydd yr union gynlluniau fydd yn cael eu cefnogi gan yr arian yn cael ei benderfynu gan Lywodraeth Lafur Cymru mewn ymgynghoriad gyda Phlaid Cymru.

"Yn ogystal, rydym hefyd wedi cytuno y bydd £10 miliwn o gyfalaf yn cael ei glustnodi dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi ymchwil ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg trwy greu parc gwyddoniaeth fydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth.

"Mae'n fwriad i'r parc yma hefyd ddenu arian o'r Undeb Ewropeaidd a'r sector preifat."

Ymrwymiad

Pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft, dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru nad oedden nhw'n medru cymeradwyo'r gyllideb ar ei ffurf bresennol.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y gyllideb yn "dirmygu'r" gwasanaeth iechyd.

Yn y gyllideb, dywedodd Ms Hutt ei bod am barhau gydag ymrwymiad Llafur i gadw budd-daliadau i bawb - rhywbeth sydd wedi bod o dan y chwyddwydr mewn cyfnod o doriadau.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn bendant am gadw polisïau fel presgripsiynau rhad ac am ddim a brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd.

Mae'r gyllideb yn rhedeg hyd at ddiwedd cyfnod adolygiad gwariant llywodraeth y DU.

Mae'n datgan cynlluniau gwario Cymru ar gyfer 2013/14, ac yn amlinellu'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddilyn.

Ymateb

Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams:

"Rwyf wedi dweud o'r dechrau na fyddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cefnogi cyllideb oedd ddim yn cau'r bwlch ariannu gyda Lloegr - gan ddechrau gyda'r plant tlotaf sydd angen y mwyaf o gymorth.

"Roedd ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn bositif ac adeiladol, ond doedd Llafur ddim yn medru cytuno i'r cynnydd sylweddol mewn arian i'r plant tlotaf yn ein cymdeithas.

"Bydd y gyllideb hon yn golygu y bydd y bwlch ariannu rhwng plant yng Nghymru a Lloegr yn cynyddu, ac rwy'n bryderus y bydd Cymru'n disgyn ymhellach yn ôl."

Roedd y Ceidwadwyr yn fwy ymosodol.

Dywedodd eu llefarydd ar gyllid, Paul Davies AC: "Mae hwn yn gytundeb rhad....mae Plaid wedi cael eu prynu am lai nag yr oedd unrhyw un yn ei ddisgwyl gyda bargen eilradd i bob pwrpas.

"Y llywodraeth fydd yn penderfynu sut yn union y bydd yr arian yn cael ei wario, nid Plaid.

"Bydd mwy o'r hen Lafur diog o'n blaenau - yn gwario ychydig iawn i gael pleidleisiau.

"Dyw hyn ddim yn agos at fod yn ddigon i'r economi. Does dim manylion hanfodol ar ardaloedd menter, penderfyniadau cadarn ar drethi busnes na gwelliannau tuag at fuddsoddiad o dramor.

"Bydd ein gwasanaeth iechyd yn gweld toriadau o hyd. Mae hynny'n annerbyniol a diangen."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.