Anthem: Cyngor yn newid meddwl

Pabi
Image caption Bydd gwasanaethau yn cael eu cynnal led led Cymru ddydd Sul

Mae cyngor cymuned wedi newid eu meddwl yn dilyn penderfyniad gwreiddiol i beidio â chynnwys Hen Wlad Fy Nhadau mewn seremoni Sul y Cofio.

Roedd y Cyngor Cymuned Penarlâg yn Sir y Fflint wedi dod i'r penderfyniad yn y lle cyntaf gan ddweud nad oedd pentrefwyr yn gwybod y geiriau.

Nawr bydd yr anthem yn cael ei chwarae gyda thaflenni gyda geiriau'r gan yn cael eu dosbarth.

Roedd un pentrefwr wedi disgrifio'r penderfyniad gwreiddiol fel "cywilydd."

Yn ôl y cyngor doedd dim bwriad ddangos amarch.

'Parch'

Ddydd Iau dywedodd clerc y cyngor, sydd ddwy filltir o'r ffin gyda Lloegr: "Y tro diwethaf i ni gynnwys yr anthem rai blynyddoedd yn ôl ni chafodd ei chanu mewn modd oedd yn dangos parch.

"Doedd pobl ddim yn gwybod y geiriau, felly o ran parch i Anthem Cymru penderfynwyd peidio ei chwarae eto.

"Doedden ddim am ail adrodd profiad John Redwood."

Bwriad y cyngor felly oedd canu God Save The Queen yn unig, ond daeth tro ar fyd.

"Yn amlwg roedd yna deimlad cryf...a dim ein bwriad yw achosi ypset."

Dysgwyr

Roedd un pentrefwr oedd am aros yn ddienw wedi dweud fod y penderfyniad yn sarhad ar filwyr o Gymru oedd wedi colli eu bywydau.

"Pa fath o neges yw hyn i blant ysgol sy'n gosod torchau ac sy'n dysgu'r iaith."

Yn ôl Eurwyn Roberts o Gilcain, sy'n aelod o'r Lleng Prydeinig Ardal Licswm, Sir y Fflint, roedd o'n siomedig gyda'r penderfyniad gwreiddiol ond nawr yn hapus.

Dywedodd ar raglen Taro'r Post Radio Cymru:

"Roeddwn yn siomedig nad oeddynt am ganu ar Sul pwysica'r flwyddyn. Roeddwn i mewn gwasanaeth yn yr ardal dwy flynedd yn ôl ac roedd yna ganu gwael - dim ond chwech oedd yn gwybod y geiriau. Ond lle mae'r Cymry?"

Ar ôl clywed am y newid meddwl dywedodd: "Da iawn. Mae yna gorau da yn yr ardal - Y Fflint a Chaerwys - a byddai'n braf pe bai'r rheini'n dod yno."