Cannoedd yn angladd Karina Menzies yn Nhrelái

Mae angladd menyw a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd wedi ei gynnal.

Cafodd Karina Menzies, 31 oed, ei tharo y tu allan i orsaf dân Trelái ar Hydref 19, ac fe gafodd 13 o bobl eraill, gan gynnwys plant, eu hanafu mewn cyfres o wrthdrawiadau tebyg ar draws y ddinas.

Roedd cannoedd o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth ddydd Gwener.

Wedi'r gwasanaeth yn Eglwys yr Atgyfodiad ar Grand Avenue, Trelái, cafodd Ms Menzies ei chladdu ym Mynwent Y Gorllewin.

Roedd nifer o bobl yn sefyll y tu allan i'r eglwys yn gwrando ar y gwasanaeth ar uchel seinydd.

Cronfa ymddiriedolaeth

Roedd Ms Menzies yn fam i dri o blant.

Image copyright South Wales Police
Image caption Cafodd Karina Menzies ei tharo gan fan wen y tu allan i orsaf dân Trelái ar Hydref 19

Cafodd casgliad ei gynnal yn ystod yr angladd i godi arian ar gyfer dwy gronfa ymddiriedolaeth.

Mae un wedi'i sefydlu ar gyfer plant Ms Menzies ac mae'r llall ar gyfer dioddefwyr eraill y digwyddiad gan gynnwys ei phlant.

Mae llyfr cydymdeimlad ar agor ym mharlwr angladdau Roy J Larcombe ar Ffordd Gorllewin Y Bontfaen rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Mae Matthew Tvrdon, 31 oed, wedi'i gyhuddo o lofruddio Ms Menzies.

Mae'n wynebu 18 cyhuddiad arall, sef 13 chyhuddiad o geisio llofruddio, pedwar cyhuddiad o ymosod gan beri niwed corfforol, a chyhuddiad o yrru'n beryglus.

Image caption Bu nifer yn gwrando ar y gwasanaeth ar uchelseinydd y tu allan i'r eglwys

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.