Ffordd ynghau wedi i lori droi drosodd

Y lori ar ei hochr
Image caption Cafodd craen ei ddefnyddio i godi'r lori brynhawn dydd Iau

Mae rhan o'r A44 ger Aberystwyth wedi bod ynghau am bron i 24 awr wedi i lori droi drosodd.

Digwyddodd y ddamwain nos Fercher am 7:00pm ger Dyffryn Castell wedi i'r lori droi drosodd cyn gorwedd ar ei hochr mewn cae.

Ni chafodd y gyrrwr ei anafu.

Cafodd craen ei ddefnyddio i godi'r lori brynhawn dydd Iau a disgwylir i'r ffordd ail agor yn ddiweddarach nos Iau.

Dywedodd Cyngor Ceredigion fod traffig yn cael ei ddargyfeirio yn Nyffryn Castell ac yn ardal Lovesgrove ger Aberystwyth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.