Her anferth yr hydref i Gymru

Sam Warburton (chwith) yn gadael y maes wedi'r golled o 20-19 yn erbyn Awstralia ym mis Mehefin Image copyright Getty Images
Image caption Sam Warburton (chwith) yn gadael y maes wedi'r golled o 20-19 yn erbyn Awstralia ym mis Mehefin

Dywedodd Sam Warburton, capten Cymru, bod rhaid targedu pedair buddugoliaeth yn yr hydref os ydynt am gael gobaith go iawn o ennill Cwpan y Byd yn 2015.

Oherwydd trefniadau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, bydd detholion ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cael eu penderfynu ddiwedd y flwyddyn hon.

Gan y bydd y broses honno'n seiliedig ar restr detholion y byd ar y pryd, mae'n angenrheidiol i Gymru sicrhau lle uchel ar y rhestr.

'Uchelgeisiol'

Cyn gêm gyntaf cyfres yr hydref yn erbyn Ariannin ddydd Sadwrn, dywedodd Warburton wrth y BBC: "Rhaid bod yn uchelgeisiol a mynd am bedair buddugoliaeth allan o bedair gêm.

"Os edrychwch chi ar dimau gorau hemisffer y gogledd fel Lloegr yn 2003, fe wnaethon nhw drechu'r tri mawr (Seland Newydd, Awstralia a De Affrica) yn olynol.

"Dyna'r safon sydd angen ei gyrraedd os ydyn ni am gystadlu yn 2015."

Nid yw Cymru wedi curo'r un o'r tri mawr ers pedair blynedd - roedd eu buddugoliaeth ddiwethaf dros un o dimau hen Bencampwriaeth y Tair Gwlad yn erbyn Awstralia yn Nhachwedd 2008.

Ers hynny, maen nhw wedi colli 14 gêm yn olynol - saith yn erbyn Awstralia, pedair yn erbyn Seland Newydd a thair yn erbyn De Affrica - gyda chwech o'r colledion hynny o bedwar pwynt neu lai.

Daeth yr unig lwyddiannau yn erbyn timau hemisffer y de yn y cyfnod yna yn erbyn Ariannin mewn gêm baratoi at Gwpan y Byd 2011, ac mewn buddugoliaeth o 17-13 yn erbyn Samoa yn 2009.

Samoa fydd ail wrthwynebwyr Cymru yng nghyfres yr hydref ymhen wythnos, cyn i Gymru groesawu Seland Newydd ac Awstralia i Gaerdydd.

'Hyderus'

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jamie Roberts yw'r seren ddiweddaraf i ddweud y bydd yn gadael i chwarae ei rygbi yn Ffrainc

Ond er gwaethaf anafiadau i dri aelod o'r blaenwyr enillodd y Gamp Lawn - Adam Jones, Ryan Jones a Dan Lydiate - mae Warburton yn hyderus y gall ei dîm newid colledion agos i fod yn fuddugoliaethau.

"Mae'r garfan sydd gennym nawr yn llawn hyder ac yn credu yn ein gallu ein hunain. Dydw i ddim yn credu y byddwn ni'n dechrau amau ein hunain.

"Rydym yn griw uchelgeisiol, ac mae'r hyfforddwyr yn rhai da am ein hysbrydoli.

"Mae'r chwaraewyr wedi hen flino disgwyl am y fuddugoliaeth gyntaf yna (yn erbyn y tri mawr) fel y mae'r cyfryngau a'r cyhoedd rwy'n siŵr.

"Gobeithio y medrwn ni sicrhau hynny cyn bo hir.

"Bydd pedair buddugoliaeth o'r bron yn erbyn gwrthwynebwyr da iawn yn anodd, ond rydym yn edrych ymlaen at yr her, ac mae'n rhaid i ni fynd amdani.

"Bydd y gemau yma'n hanfodol ar gyfer detholion Cwpan y Byd, ac i hyder y chwaraewyr hefyd."

Problem gynyddol

Daw'r gemau mewn cyfnod anodd i Undeb Rygbi Cymru.

Mae adroddiad yr wythnos hon yn amau a oes modd parhau gyda phedwar rhanbarth rygbi yng Nghymru, ac yna fe ddaeth cyhoeddiad bod un arall o sêr y tîm cenedlaethol - Jamie Roberts - yn mynd i adael Cymru i ennill ei fara menyn yn Ffrainc.

Eisoes mae Mike Phillips, James Hook, Lee Byrne, Gethin Jenkins a Luke Charteris yn chwarae i glybiau yn Ffrainc, ac mae'n broblem gynyddol perswadio'r clybiau hynny i ryddhau eu chwaraewyr ar gyfer sesiynau ymarfer y tîm cenedlaethol.

Mae cyn gapten Cymru, Matthew Rees, wedi cydnabod fod hyn yn broblem.

"Dydw i ddim yn siŵr y gall clybiau o Gymru, Lloegr nac Iwerddon gystadlu gyda thimau Ffrainc," meddai.

"Mae chwaraewyr Cymru yn cael fwy o barch nag o'r blaen, ac mae timau Ffrainc sydd â diddordeb yn dod draw a chipio'r rhai gorau.

"Mater i'r rhanbarthau yng Nghymru ac Undeb Rygbi Cymru yw datrys y broblem."

Er y bydd Jenkins yn dechrau'r gêm yn erbyn Ariannin ddydd Sadwrn, ar y fainc y bydd Phillips a Hook, ac fe fydd Charteris yn chwarae i'w glwb Perpignan y penwythnos hwn.

CYMRU v. ARIANNIN: Dydd Sadwrn, Tachwedd 9; Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

15 Leigh Halfpenny (Gleision);

14 Alex Cuthbert (Gleision), 13 Scott Williams (Scarlets), 12 Jamie Roberts (Gleision), 11 George North (Scarlets);

10 Rhys Priestland (Scarlets), 9 Tavis Knoyle (Scarlets);

1 Gethin Jenkins (Toulon), 2 Matthew Rees (Scarlets), 3 Aaron Jarvis (Gweilch);

4 Alun Wyn Jones (Gweilch), 5 Ian Evans (Gweilch);

6 Josh Turnbull (Scarlets), 8 Toby Faletau (Dreigiau), 7 Sam Warburton (Gleision, capten).

Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Robin McCusker (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Bayonne), James Hook (Perpignan), Liam Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.