Uwchswyddog arall yn gadael Cyngor Sir Penfro

Swyddfeydd Cyngor Sir Benfro Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd safonau addysg yn y sir eu beirniadu'n hallt

Mae uwchswyddog addysg arall yn Sir Benfro yn gadael ei swydd gyda'r cyngor sir.

Fe fydd Martin Lloyd, oedd i fod yn Brif Swyddog Addysg nesa'r sir, yn gadael ei swydd fel Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion.

Eisoes mae'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Phlant, Graham Longster, wedi gadael.

Beirniadodd Estyn safonau addysg y sir yn hallt ym mis Awst y llynedd ond mae canlyniadau TGAU wedi gwella'n sylweddol eleni.

'Cynllun gwella'

Dywedodd Mr Lloyd, cyn Brifathro Ysgol y Preseli, Crymych: "Ar ôl ystyried yr arolygiad heriol o wasanaethau addysg Sir Benfro rwyf wedi penderfynu ymddeol o fod yn Bennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion ar ddiwedd mis Rhagfyr.

"Bydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Phlant newydd yn cychwyn yn ei swydd ar Ionawr 1, 2013, ac mae fy ymddeoliad yn rhoi cyfle iddo adeiladu tîm arweinyddol newydd i gyflwyno'r cynllun gwella."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.