Cymru'n cofio'r milwyr a gollwyd mewn rhyfeloedd

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn gosod torch ger y Gofeb
Image caption Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn gosod torch ger y Gofeb

Mae gwasanaethau wedi cael eu cynnal ar draws Cymru ar Ddydd y Cadoediad.

Mae'n nodi 94 blynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd bron i 900,000 o aelodau'r lluoedd arfog eu lladd yn ystod y Rhyfel a oedd i fod yn rhyfel i ddiweddu pob rhyfel.

Ar Sul y Cofio, cafodd Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru ei gynnal yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd.

Bu cynrychiolwyr o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin, yr Awyrlu Brenhinol, Uned Llynges Frenhinol Prifysgol Cymru, Corps Hyfforddi Swyddogion Prifysgol y Fyddin a'r Llynges Fasnachol a'r Fflydoedd Pysgota yn gorymdeithio i'r gerddi erbyn 10:40am.

Fe wnaeth cyn-filwyr ymuno â nhw, wedi'u trefnu gan y Lleng Frenhinol Brydeinig, a sifiliaid sy'n cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â rhyfeloedd y gorffennol a heddiw.

Cafodd detholiad o gerddoriaeth ei chwarae gan Fand a Chorfflu Drymiau Catrodol Brenhinol Cymru o 10:40am tan ychydig cyn 11:00am pan ddechreuodd y gwasanaeth gydag anerchiad a darlleniad o'r ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Stewart Lisk.

Caniad Olaf

Am 10:59am, fe wnaeth Biwglwr o Fand a Chorfflu Drymiau Catrodol Brenhinol Cymru ganu'r Caniad Olaf cyn tanio'r gwn gan Gatrawd Amddiffyn yr Awyr 104 y Llu Awyr o Farics Rhaglan, Casnewydd, i nodi dechrau'r ddwy funud o dawelwch am 11am.

Daeth y seremoni i ben gyda gwn yn cael ei danio a'r Biwglwr yn chwarae'r Reveille.

Yna fe wnaeth Arglwydd Raglaw De Morgannwg, Dr Peter Beck, roi torch ger y Gofeb, ar ran Ei Mawrhydi'r Frenhines.

Cafodd ei ddilyn gan gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Heather Joyce.

Myfyrio ac yn cofio

"Ar Sul y Cofio, rydym yn myfyrio ac yn cofio am y rhai a wasanaethodd ac a aberthodd gymaint i'n galluogi ni i fwynhau'r rhyddid sydd gennym heddiw," meddai Mr Jones.

"Er ein bod yn ffodus i gael byw mewn oes fwy heddychlon, mae'n rhaid i ni hefyd gofio am y dynion a'r gwragedd sydd wrthi heddiw yn gwasanaethu dramor a chofio am y peryglon y maen nhw'n eu hwynebu.

"Mae'r gofynion a roddir ar yr aelodau hynny a'u teuluoedd yn sylweddol. Dylwn gadw hynny mewn cof a chynnig cymaint o gymorth ag y gallwn wrth i ni gofio am yr aberth y maent yn eu gwneud, a'u hanrhydeddu."

Dywedodd y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru: "Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn cofio ac yn anrhydeddu aberth y rhai a frwydrodd ac sy'n parhau i frwydro a gwasanaethu ein cenedl.

"Diolch i haelioni'r genedl, mae'r cymorth a'r brawdgarwch a gynigiwn yr un mor bwysig i'n Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd heddiw ag yr oedd 94 mlynedd yn ôl".

Image caption Cofio ac anrhydeddu aberth y rhai a frwydrodd ac sy'n parhau i frwydro a gwasanaethu ein cenedl y mae pobl ar Ddydd y Cadoediad

Straeon perthnasol