Cymru 12-26 Yr Ariannin

Colli oedd hanes Cymru yn erbyn Yr Ariannin ddydd Sadwrn yng ngêm agoriadol cyfres yr hydref yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Cafodd yr ymwelwyr y gorau ar Gymru ym mhob agwedd o'r gêm, ac fe ddangosodd y rhan fwyaf o'r dorf o 51,400 eu hanfodlonrwydd ar y chwiban olaf.

Doedd hi ddim yn amlwg beth oedd cynllun gêm Cymru, a phrin yr oedden nhw'n edrych fel sgorio cais, gyda rhai o'r chwaraewyr allweddol fel George North braidd yn cael gafael ar y bêl.

Roedd Cymru yn lwcus i fod 9-6 ar y blaen ar yr egwyl trwy dair cic gosb gan Leigh Halfpenny, gyda Felipe Contepomi yn llwyddo gyda chic gosb a Gonzalo Sanchez yn llwyddo gyda chic adlam.

Ond fe groesodd yr asgellwr Juan Imhoff am gais ar ôl gwaith da gan wythwr yr ymwelwyr Leonardo Senatore, gyda Halfpenny yn methu â thaclo Imhoff.

Seliwyd y fuddugoliaeth pan wnaeth Camacho ymestyn i sgorio cais yn y gornel er gwaetha ymgais Halfpenny i'w rwystro.

Llwyddodd Sanchez gyda'r trosiad o'r ystlys ac ychwanegodd maswr Bordeaux-Begles cic gosb arall gydag wyth munud yn weddill i gwblhau'r fuddugoliaeth haeddiannol.

'Ddim yn ddigon da'

Dywedodd capten Cymru, Sam Warburton, ar ddiwedd y gêm: "Ry' ni gyd yn siomedig iawn, ennill oedd y nod a wnaethom ni ddim.

"Roedd y paratoadau a safon yr ymarfer yng Ngwlad Pwyl yn dda iawn, ond yn amlwg doedd y perfformiad ddim yn ddigon da.

"Bydd rhaid i ni ail ymgynnull ddydd Llun a mynd trwy'r fideo yn ofalus i weld beth aeth o'i le".

Bydd Cymru'n croesawu Samoa ar nos Wener, Tachwedd 16, gêm sy'n bwysicach fyth ar ôl y siom ddydd Sadwrn.

Yn dilyn yr ornest yn erbyn Seland Newydd ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 24, bydd Cymru'n cwblhau cyfres yr hydref gyda gêm yn erbyn Awstralia ar Ragfyr 1.

Image copyright AFP
Image caption Juan Imhoff yn sgorio cais agoriadol Yr Ariannin

CYMRU v. Yr ARIANNIN

15 Leigh Halfpenny (Gleision);

14 Alex Cuthbert (Gleision), 13 Scott Williams (Scarlets), 12 Jamie Roberts (Gleision), 11 George North (Scarlets);

10 Rhys Priestland (Scarlets), 9 Tavis Knoyle (Scarlets);

1 Gethin Jenkins (Toulon), 2 Matthew Rees (Scarlets), 3 Aaron Jarvis (Gweilch);

4 Alun Wyn Jones (Gweilch), 5 Ian Evans (Gweilch);

6 Josh Turnbull (Scarlets), 8 Toby Faletau (Dreigiau), 7 Sam Warburton (Gleision, capten).

Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Robin McCusker (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Bayonne), James Hook (Perpignan), Liam Williams (Scarlets).

Torf: 51,400

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.