Morwr o Gymru yn 'colli popeth' yn y Môr Tawel

Stephen Jones a Tanya Davies Image copyright Dave Lloyd
Image caption Roedd Stephen wedi gwerthu ei dŷ cyn prynu'r cwch hwylio

Mae teulu morwr a gafodd ei achub o'i gwch hwylio yn y Môr Tawel yn poeni ei fod wedi "colli popeth".

Roedd Stephen Jones o Gyffordd Llandudno wedi gwerthu ei dŷ yn Awstralia er mwyn prynu cwch hwylio drud ag offer arbennig cyn teithio o amgylch y byd.

Aeth ei gwch i drafferthion mewn stormydd 700 cilomedr o ynys Tonga a throi wyneb yn waered.

Bu'n rhaid iddo ef a'i gyfaill, Tanya Davies 43 oed o Seland Newydd, aros deuddydd cyn cael eu hachub.

"Doeddwn ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd, " meddai ei fam Elizabeth.

"Os oedd y cwch yn suddo mi allai'r ddau fod wedi boddi.

"Ond rwan rydan ni'n poeni amdano oherwydd does ganddo ddim byd ar ôl. Mi oedd ei holl eiddo ar y cwch hwylio."

Dywedodd Mrs Jones fod ei mab wedi gwerthu ei dŷ yn Awstralia dair blynedd yn ôl.

"Mae o wedi bod o amgylch y Caribî, drwy Gamlas Panama ac roedd ar ei ffordd i Seland Newydd."

Straeon perthnasol