Deddf gyntaf y Cynulliad

Y Senedd
Image caption Mae'r ddeddf yn rhoi statws cyfartal i'r Gymraeg

Mae'r mesur cyntaf i gael ei basio yn sgil pwerau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Daeth Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) yn ddeddf wrth i Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, roi'r Sêl Gymreig ar y Breinlythyrau a lofnodwyd gan Ei Mawrhydi.

Ddechrau'r mis cadarnhaodd Llywodraeth San Steffan na fyddai'r ddeddfwriaeth sy'n rhoi statws cyfartal i'r Gymraeg yn wynebu her gyfreithiol yn y llysoedd.

Roedd Swyddfa Cymru wedi cwestiynu a oedd gan y Cynulliad hawliau deddfwriaethol wrth ymwneud â'r iaith Saesneg ond dywedodd swyddfa'r Twrnai Cyffredinol Dominic Grieve ei fod wedi penderfynu peidio â chyfeirio'r ddeddf i'r Goruchaf Lys.

'Democratiaeth ifanc'

Ddydd Llun dywedodd Carwyn Jones: "Pan bleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i'r Cynulliad yn y refferendwm y llynedd, dywedais mai hen wlad yw Cymru ond democratiaeth ifanc.

"Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i ni fel cenedl. Mae'n symbol o gychwyn cyfnod newydd o ran llywodraethu Cymru".

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: "Ym mis Mawrth 2011 dangosodd mwyafrif pobl Cymru eu bod o blaid rhoi pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad.

"Heddiw mae deddf gyntaf erioed y Cynulliad yn derbyn Cydsyniad Brenhinol. Mae'n gwbl addas mai rhoi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad y bydd ein deddf gyntaf ...

"Bymtheng mlynedd yn ôl, prin y byddai unrhyw un wedi dychmygu y byddai gwleidyddion a etholwyd gan bleidleiswyr Cymru yn drafftio deddfwriaeth o'r fath, a'i throsglwyddo i'r llyfr statud mewn cyfnod mor fyr.

"Dylai pob un ohonom deimlo ein bod yn rhan o hanes heddiw, ar y diwrnod y mae'r Cynulliad wedi cyflawni'r mandad a roddwyd iddo gan bobl Cymru yn 2011, i lunio deddfau ar gyfer Cymru."

Straeon perthnasol