Caerdydd 2-1 Hull

Mark Hudson yn dathlu ar ôl sgorio ail gôl Caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mark Hudson yn dathlu ar ôl sgorio ail gôl Caerdydd

Roedd goliau gan Heidar Helguson a Mark Hudson yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd dros Hull City.

Peniad dewr gan Helguson wedi 3 munud roddodd y dechrau delfrydol i'r tîm cartref wedi croesiad Craig Noone.

Gwastraffodd y cochion sawl cyfle i ymestyn y fantais cyn i Hudson selio'r fuddugoliaeth gyda pheniad wrth ddeifio i gwrdd â chroesiad Aron Gunnarsson wedi 82 munud.

Ym munud olaf y gêm cafodd Robert Koren gôl gysur i'r ymwelwyr.

Mae Caerdydd yn drydydd yn y tabl y tu ôl i Crystal Palace a Middlesbrough.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Crystal Palace 16 10 33
2. Middlesbrough 16 8 32
3. CAERDYDD 16 10 31
4. Hull 16 3 28
5. Caerlŷr 16 7 27
6. Huddersfield 16 1 27

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.