Yn bencampwr o hyd

Nathan Cleverly (ar y dde) yn ergydio Shawn Hawk Image copyright AP
Image caption Nathan Cleverly (ar y dde) yn ergydio Shawn Hawk

Llwyddodd y Cymro Nathan Cleverly i amddiffyn pencampwriaeth pwysau is-drwm WBO y byd nos Sadwrn.

Fe drechodd ei wrthwynebydd, yr Americanwr Shawn Hawk, yn Los Angeles mewn wyth rownd.

Roedd y Cymro 25 oed i fod i ymladd yn erbyn Ryan Coyne yn Los Angeles, ond bu'n rhaid i Coyne dynnu'n ôl oherwydd trafferthion cytundebol, ac fe gamodd Hawk i'r adwy.

Roedd Hawk, bocsiwr confensiynol llaw dde 28 oed sy'n cael ei adnabod fel y "Sioux Warrior", wedi ennill 23 o'i 26 gornest flaenorol gan gnocio 17 o'i wrthwynebwyr allan cyn y diwedd, ond roedd y Cymro yn rhy gyflym a chryf iddo.

Fe wnaeth Cleverly wrthsefyll sawl ergyd drom, serch hynny, ond fe loriodd ei wrthwynebydd ddwywaith yn y seithfed rownd, gyda rheolwr Hawk yn taflu'r tywel i'r sgwâr i ddod â'r ornest i ben yn yr wythfed ar ôl i Hawk gael ei lorio unwaith eto.

Mae Cleverly, oedd wedi bod yn ymarfer yn Califfornia am dros wythnos, nawr yn ddiguro mewn 25 gornest.

Wedi'r fuddugoliaeth dywedodd y bocsiwr o Gefn Fforest ei fod yn awyddus i ymladd yn America eto cyn hir.

Straeon perthnasol