Cleverly yn gobeithio herio Bernard Hopkins

Nathan Cleverly Image copyright Getty Images
Image caption Enillodd Nathan Cleverly yn erbyn Shawn Hawk nos Sadwrn

Wedi ei fuddugoliaeth yn erbyn Shawn Hawk nos Sadwrn mae'r Cymro Nathan Cleverly yn gobeithio mai Bernard Hopkins fydd ei wrthwynebydd nesaf.

Fe lwyddodd Cleverly, 25 oed, i amddiffyn pencampwriaeth pwysau is-drwm WBO y byd wedi wyth rownd yn erbyn Hawk yn Los Angeles.

Mae Hopkins, pencampwr mewn sawl pwysau, wedi cadarnhau y bydd yn dychwelyd i'r sgwâr ar Fawrth 9 yn Efrog Newydd.

"Mae 'na bosibilrwydd cryf y bydd Bernard yn herio Nathan," meddai hyrwyddwr Hopkins, Richard Schaefer.

"Dwi wedi cael trafodaethau diddorol gyda Frank Warren, hyrwyddwr Nathan, ac mae Bernard hefyd yn awyddus.

"Fe fydd rhaid iddo wynebu pencampwr byd ac mae Nathan Cleverly yn un ohonyn nhw.

"Dydi Bernard ddim yn poeni pwy fydd o'n ymladd, dim ond eu bod yn bencampwr byd.

"Bydd yn edrych ar y ddau bencampwr arall ac fe fyddwn ni'n trafod i gael y cytundeb gorau."

Ychwanegodd bod Hopkins yn dod ag enw ac arian i'r frwydr.

Torri record

Collodd Hopkins yn erbyn y Cymro Joe Calzaghe yn Las Vegas ym mis Ebrill 2008.

Dydi o ddim wedi ymladd ers colli teitl pencampwr is-drwm WBC yn erbyn Chad Dawson ym mis Ebrill.

Yn 47 oed, mae o eisiau torri'r record am y pencampwr hynaf.

Ymhlith yr enwau eraill y gall eu herio y mae Beibut Shumenov, sy'n dal teitl WBA, a phencampwr IBF Tavoris Cloud.

Mae'r WBO wedi caniatáu'r ornest yn erbyn gwrthwynebydd sydd ddim yn ddetholyn ar yr amod bod y Cymro'n ymladd Robin Kransniqi, o bosib yn Yr Almaen, o fewn 90 niwrnod i faeddu Hawk.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.