Angladdau teulu fu farw wedi tân ym Mhrestatyn

Lee-Anne Shiers, Charlie Timbrell, Skye Allen, Bailey Allen Image copyright North Wales Police
Image caption Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis Charlie Timbrell, nith Skye, dwy, a'i nai Bailey Allen, pedair

Bydd angladdau pump o bobl, fu farw wedi tân mewn fflat ym Mhrestatyn fis diwetha', yn cael eu cynnal.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20 oed; ei mab 15 mis oed Charlie; ynghyd â nai Ms Shiers, Bailey Allen, pedair oed, a'i nith Skye, dwy oed, mewn tân yng nghartref y teulu ym Maes y Groes, nos Wener, Hydref 19.

Roedd partner Ms Shiers, Liam Timbrell, wedi bod mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty Glenfield yng Nghaerlŷr.

Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwetha' ei fod yntau wedi marw.

Preifatrwydd

Bydd yr angladd preifat yn cael ei gynnal yn amlosgfa Bae Colwyn, gydag aelodau o'r teulu yn unig yn bresennol.

Image copyright Freelance Photos North Wales
Image caption Bu farw Liam Timbrell bron i dair wythnos wedi'r tân

Dydd Mercher bydd gwasanaeth coffa cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Eglwys Prestatyn am 11am.

Mae teulu'r pump wedi gofyn am breifatrwydd llwyr ar gyfer yr angladd ddydd Mawrth.

Yn y cyfamser, mae Melanie Smith, 42 oed, wedi cael ei chyhuddo o bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth, o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ac o fygwth achosi difrod troseddol.

Mae wedi cael ei chadw yn y ddalfa tan ei hymddangosiad nesa' yn y llys ym mis Ionawr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.