Cymru'n aros am ganlyniadau anafiadau'r chwaraewyr

Cafodd Jamie Roberts anaf i'w ben yn y gêm yn erbyn Yr Ariannin Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Jamie Roberts anaf i'w ben yn y gêm yn erbyn Yr Ariannin

Mae rheolwyr tîm rygbi Cymru wedi gohirio cyhoeddi eu tîm i wynebu Samoa yng Nghaerdydd nos Wener.

Fe fydd y tîm yn cael ei gyhoeddi 24 awr yn hwyrach na'r disgwyl a hynny ddydd Mercher ar ôl i anafiadau'r chwaraewyr gael eu hasesu.

Cafodd Jamie Roberts ac Alun Wyn Jones anafiadau yng ngêm agoriadol Gemau'r Hydref yn erbyn Yr Ariannin ddydd Sadwrn.

Rhag ofn na fydd Jones wedi gwella mae Lloyd Peers, 21 oed o'r Gweilch, wedi cael ei gynnwys yn y garfan.

Colli oedd hanes Cymru o 12-26 yn Stadiwm y Mileniwm.

"Mae pawb yn gobeithio y bydd Roberts yn iawn ar gyfer nos Sadwrn," meddai Shaun Edwards, hyfforddwr amddiffyn Cymru.

Colled

"Cafodd ei daro yn ei ben ac mae wedi cael ergyd."

Mae disgwyl y bydd Ryan Jones ac Ashley Beck yn holliach ar ôl colli'r gêm gyntaf.

Ond mae 'na amheuaeth o hyd am y canolwr Jonathan Davies.

"Dwi'n awyddus i'w gynnwys yn y tîm gan ei fod yn un o'n prif amddiffynwyr a does dim dwywaith i ni ei golli ddydd Sadwrn," ychwanegodd Edwards.

"Ond mae ganddo anaf ac mae'n rhaid i ni gael ein cynghori gan y meddygon.

"Mae Roberts hefyd yn allweddol gan mai fo yw capten yr amddiffyn ac os na fydd, yna bydd rhaid i rywun lenwi ei esgidiau ac maen nhw'n rhai mawr i'w llenwi."

Cafodd Jones sgan ar ei ysgwydd ddydd Llun ac mae'r hyfforddwyr yn aros am y canlyniadau.

Ar gael i'r dewiswyr hefyd y mae Luke Charteris ar ôl i Perpignan golli o 3-15 yn erbyn Biarritz ddydd Sadwrn.

Ar ôl y gêm yn erbyn Samoa nos Wener fe fydd Cymru yn herio Seland Newydd ar Dachwedd 24 ac Awstralia ar Ragfyr 1.

Mae Cymru yn gobeithio ennill y gêm nos Wener i osgoi colli 5 gêm yn olynol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.