Dal dyn ar gamera yn dwyn car

Mae lluniau cylch cyfyng o leidr yn dwyn cerbyd gyriant pedair olwyn gwerth £6,000 o garej yng Nghonwy wedi cael eu rhyddhau.

Gwelwyd dyn, yn gwisgo dillad llachar, yn gyrru'r Land Rover Freelander o Ganolfan Geir Cyffordd Llandudno ddydd Mercher, Tachwedd 7.

Fe gerddodd o amgylch y garej cyn mynd i'r cerbyd, oedd â'r goriad ynddo'n barod, a gyrru oddi yno.

Mae'r rheolwr Kevin Jones wedi cynnig gwobr o £500 am unrhyw wybodaeth allai arwain at ddal y lleidr.

"Dyw hyn erioed wedi digwydd o'r blaen," meddai.

"Mae'n debyg y byddan nhw'n clonio'r car neu yn ei werthu mewn darnau."

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddiflaniad y cerbyd lliw arian am 1.17pm.

"Roedd 'na ddeg o geir newydd gyrraedd ar lori fawr. Fe gerddodd y dyn i'r garej, mynd mewn i un o'r cerbydau Freelander a gyrru ffwrdd," meddai Mr Jones.

"Mae'n bwysig iawn i ni gael y car yma'n ôl.

"Rydym yn cynnig gwobr o £500 am wybodaeth fydd yn arwain at ddal y lleidr."

Rhif plât cofrestru'r car ail-law yw SW05 NVE.

Mae Mr Jones yn credu y gallai rhywun fod wedi helpu'r lleidr gan fod fan goch, debyg i'r math Berlingo, wedi cael ei gweld yn gyrru oddi yno ychydig cyn i'r lleidr ddianc.

Mae'r dyn a welwyd yn gyrru'r Land Rover rhwng 5 troedfedd 10 modfedd (1.78m) a chwe throedfedd (1.83m) o daldra, o faint canolig ac yn debygol o fod yn ei ugeiniau.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.