'Dim ymyrraeth' mewn adroddiad iechyd

  • 13 Tachwedd 2012
Ysbyty Glan Clwyd
Gallai gwasanaethau babanod newydd-anedig Ysbyty Glan Clwyd symud i Gilgwri o dan y cynlluniau

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi mynnu nad oedd gweinidogion yn rhan o'r newidiadau i ddogfen am ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru.

Dywedodd nad oedd yna "unrhyw ymyrraeth o gwbl" gan Lywodraeth Cymru.

Hefyd dywedodd fod ei lywodraeth yn ymddiried yn y Fforwm Clinigol Cenedlaethol (FfCC), sy'n cynghori byrddau iechyd lleol ar ailstrwythuro.

Roedd y fforwm wedi rhybuddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fod eu cynigion yn "anghynaladwy" yn y tymor hir, ond cafodd yr asesiad ei ailysgrifennu.

Daeth hynny wedi i brif weithredwr y bwrdd, Mary Burrows, ymyrryd.

Dywedodd hi fod y fforwm wedi cael cais i "egluro" rhai cynigion penodol a bod cadeirydd y fforwm wedi dweud bod angen newid y ddogfen er mwyn cael gwared ar unrhyw "amwysedd".

'Diffyg arweiniad'

Yn ystod y sesiwn holi yn y Senedd, dywedodd arweinwyr y gwrthbleidiau fod yna "ddiffyg arweiniad" ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a bod angen i Lywodraeth Cymru "fynd i'r afael" â'r sefyllfa.

Dywedodd Mr Jones nad oedd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths yn ymwybodol o'r digwyddiadau tan yn ddiweddarach.

Byddai wedi bod yn "hollol amhriodol petai'r gweinidog iechyd wedi ceisio ymyrryd mewn rhyw ffordd yn y drafodaeth rhwng y bwrdd iechyd lleol a'r Fforwm Clinigol Cenedlaethol," meddai.

Mae'r Ceidwadwyr, oedd wedi cael gafael ar y dogfennau, wedi mynnu cael gwybod pam bod ymateb y fforwm i gynigion Betsi Cadwaladr wedi cael eu newid cymaint.

Mae'r bwrdd wedi cynnig cau nifer o unedau mân anafiadau ac ysbytai cymunedol, a symud gwasanaethau i fabanod newydd-anedig o Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, i Arrowe Park yng Nghilgwri.

Dywedodd cadeirydd y fforwm, Mike Harmer, fod angen ailysgrifennu'r adroddiad "i sicrhau nad oedd amwysedd" a honnodd fod prif neges yr ail ddrafft yr un yn y bôn â'r un gwreiddiol.

'Anghywir'

Wrth ateb cwestiwn brys ddydd Mawrth dywedodd Mrs Griffiths na fyddai'n rhan o'r broses tan y byddai'r adroddiadau terfynol yn barod.

"Dydw i ddim wedi bod yn rhan o'r trafodaethau a byddai'n hollol anghywir i mi fod yn rhan o unrhyw drafodaeth ar hyn o bryd," meddai.

"Byddai wedi bod yn hollol amhriodol i mi ymyrryd."

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar - oedd wedi cynnig y cwestiwn - roedd swyddogion y llywodraeth, sy'n goruchwylio gwaith y fforwm, yn gwybod am y newidiadau i'r adroddiad.

"Y canlyniad oedd adroddiad oedd yn mynd o fynegi pryderon difrifol am gynigion y bwrdd iechyd i fynegi cefnogaeth.

"Ydych chi'n cytuno â mi fod y digwyddiadau hyn yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y broses o newid ein gwasanaethau iechyd?"