Cyhuddiad arall wedi tân marwol ym Mhrestatyn

Liam Timbrell Image copyright Freelance Photos North Wales
Image caption Bu farw Liam Timbrell bron i dair wythnos wedi'r tân

Mae dynes 42 oed wedi cael ei chyhuddo o bumed llofruddiaeth wedi tân mewn fflat ym Mhrestatyn fis diwetha'.

Bu farw Liam Timbrell, 23 oed, yr wythnos ddiwetha'.

Roedd wedi bod mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty Glenfield yng Nghaerlŷr ers i dân ysgubo drwy ei gartref ym Maes y Groes nos Wener, Hydref 19.

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi pumed cyhuddiad o lofruddiaeth.

Mae Melanie Smith bellach yn wynebu pum cyhuddiad o lofruddiaeth, o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ac o fygwth achosi difrod troseddol.

Bydd gwrandawiad arall yn Llys y Goron Caernarfon ar Dachwedd 16.

Image copyright North Wales Police
Image caption Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis Charlie Timbrell, nith Skye, dwy, a'i nai Bailey Allen, pedair

Angladdau

Bu farw partner Mr Timbrell, Lee-Anna Shiers, a'u mab Charlie oedd yn 15 mis oed, yn y tân ynghyd â nai a nith Ms Shiers - Bailey Allen oedd yn bedair oed, a Skye Allen oedd yn ddwy oed.

Roedd angladd y pump yn Amlosgfa Bae Colwyn ddydd Mawrth ac roedd y teulu wedi gofyn am breifatrwydd llwyr.

Dydd Mercher bydd gwasanaeth coffa cyhoeddus yn Eglwys Prestatyn am 11am.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.