Bala: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

Stryd Plassey
Image caption Cafodd y stryd ei chau gan yr heddlu wedi'r digwyddiad ddydd Sadwrn

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn nhre'r Bala ddydd Sadwrn, Tachwedd 10.

Cafodd Julius Hecko, 23 oed o dras Slofacia, ei gyhuddo o lofruddio Branislav Gula, 42 oed a hefyd o Slofacia.

Digwyddodd y drosedd yn Heol y Plase, Y Bala ddydd Sadwrn.

Bydd Hecko yn ymddangos gerbron ynadon Caernarfon fore Mercher.

Cafodd pedwar person arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i blismyn barhau gyda'r ymchwiliad i'r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Er ein bod wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth, mae ein hymchwiliad yn parhau.

"Hoffwn apelio ar unrhyw un yn y gymuned yma oedd yn dyst i ddigwyddiadau arweiniodd ar y digwyddiad ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 10 - neu yn wir unrhyw un sy'n gallu ein cynorthwyo i greu darlun cyflawn a chefndir i'r achos - i ffonio'r heddlu ar 101."

Fe all pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.