Peilonau: 150 yn unfrydol

Peilonau trydan
Image caption Mae'r Grid Cenedlaethol yn ffafrio codi peilonau ar draws Ynys Môn a chroesi Afon Menai

Mae 150 o bobol ardal Bangor a'r cyffiniau wedi pleidleisio'n unfrydol i alw ar y Grid Cenedlaethol i fynd â cheblau trydan o dan y môr rhwng Ynys Môn a Glannau Dyfrdwy.

Ar hyn o bryd mae'r grid yn ceisio barn am am nifer o wahanol lwybrau i gario trydan o'r Wylfa B arfaethedig a'r fferm wynt Celtic Array.

Mae'r bobol leol wedi penderfynu eu bod nhw am bwyso ar y grid i beidio â chodi peilonau newydd rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth a Phlaid Cymru oedd wedi trefnu'r digwyddiad ym Mhlas Menai, Caernarfon.

Ymhlith y siaradwyr roedd y cynghorwyr Sian Gwenllian a John Wyn Williams, yn ogystal ag Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams.

Ymgynghori

Mae'r Grid Cenedlaethol eisoes wedi dechrau cyfnod ymgynghori ar eu cynigion i drosglwyddo'r trydan rhwng gogledd Môn a Phentir ger Bangor.

Mae'r cwmni yn ffafrio adeiladu peilonau newydd ar draws y Fenai, ond dywed Plaid Cymru y byddai'n well ganddyn nhw weld ceblau yn cael eu gosod o dan y môr.

Y pryder yn lleol ydi y bydd y peilonau yn difwyno ardal arbennig o hardd yn ogystal ag amharu ar dai cyfagos.

Bydd angen cysylltu fferm wynt newydd Celtic Array oddi ar arfordir Môn, a'r Wylfa B arfaethedig, gyda'r grid cenedlaethol a dyw'r rhwydwaith presennol ddim yn ddigonol.

Gallai'r cynllun gostio hyd at £2.5 biliwn, yn dibynnu ar y llwybr gaiff ei ddewis.

Bydd cyfnod ymgynghori'r Grid Cenedlaethol yn para tan ddechrau mis nesa'.

Mae sawl cynllun dan ystyriaeth, gan gynnwys gosod ceblau o dan y môr o ogledd Môn i Gei Connah.

Ond mae'r ddau gynghorydd sir sy'n cynrychioli'r Felinheli a Phentir yn gwrthwynebu.

Mae'r cynghorydd John Wyn Williams, yr aelod dros Bentir, yn derbyn fod angen creu'r cysylltiad newydd i gludo trydan ond yn anhapus â'r dewis sy'n cael ei ffafrio.

"Pam allan nhw ddim meddwl am ffordd arall - dan ddaear, er enghraifft?" gofynnodd. "Dwi'n gwybod bod hynny'n lot fwy costus, ond pa gost sydd 'na pan 'da chi'n hagru cefn gwlad?

'Harddwch naturiol'

Mae'r cynghorydd dros Y Felinheli, Sian Gwenllian, hefyd yn derbyn fod angen creu'r cysylltiad newydd ond mae hi'n cytuno y dylid edrych ar ddewisiadau posib eraill, megis mynd dan y môr i Gei Connah.

"Mater o ymgynghoriad ydy'r cyfnod yma," meddai, "ac mi f'aswn i'n annog pawb sydd ddim am weld ceblau a pheilonau yn dinistrio harddwch naturiol ein hardal ni i ddweud hynny a'i ddweud yn glir iawn yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd Dwynwen Williams, llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol, bod "yr opsiwn sy'n cael ei gynnig ac yn ei drafod fel yr un 'da ni'n ffafrio ar hyn o bryd yn gwneud y gorau o'r rhwydwaith ar y tir yng Ngwynedd".

"Mae o hefyd tua £800 miliwn yn rhatach na rhai o'r opsiynau eraill.

"Ac mae hynny'n bwysig - pwy sy'n talu am unrhyw gynllun fel hyn ydy'r bobl sy'n talu bil trydan."

Mae yna nifer o arddangosfeydd wedi eu trefnu ar Ynys Môn a Glannau'r Fenai rhwng nawr a dechrau Rhagfyr.

Bydd y Grid Cenedlaethol yn cyhoeddi eu llwybr dewisedig y flwyddyn nesaf a bydd proses ymgynghori arall yn dechrau bryd hynny.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ymhen pedair blynedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.