300 mewn gwasanaeth coffa ym Mhrestatyn

Lee-Anne Shiers, Charlie Timbrell, Skye Allen, Bailey Allen Image copyright North Wales Police
Image caption Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis Charlie Timbrell, nith Skye, dwy, a'i nai Bailey Allen, pedair

Daeth 300 o bobl i Wasanaeth Coffa ym Mhrestatyn er cof am y pum aelod o'r un teulu fu farw mewn tân ym mis Hydref.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20 oed; ei mab 15 mis oed Charlie; ynghyd â nai Ms Shiers, Bailey Allen, pedair oed, a'i nith Skye, dwy oed, mewn tân yng nghartref y teulu ym Maes y Groes, nos Wener, Hydref 19.

Roedd partner Ms Shiers, Liam Timbrell, wedi bod mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty Glenfield yng Nghaerlŷr.

Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwetha' ei fod yntau wedi marw.

Roedd y gwasanaeth coffa cyhoeddus yn Eglwys Prestatyn am 11am.

Image copyright Freelance Photos North Wales
Image caption Bu farw Liam Timbrell bron i dair wythnos wedi'r tân

Cafodd angladd preifat ei gynnal yn amlosgfa Bae Colwyn, gydag aelodau o'r teulu yn unig yn bresennol, ddydd Mawrth.

Roedd teulu'r pump wedi gofyn am breifatrwydd llwyr ar gyfer yr angladd.

Yn y cyfamser, mae Melanie Smith, 42 oed, wedi cael ei chyhuddo o bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth, o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ac o fygwth achosi difrod troseddol.

Mae wedi cael ei chadw yn y ddalfa tan ei hymddangosiad nesa' yn y llys ym mis Ionawr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.