Dim lle i Warburton yn nhîm Cymru

Cafodd Jamie Roberts anaf i'w ben yn y gêm yn erbyn Yr Ariannin Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Jamie Roberts anaf i'w ben yn y gêm yn erbyn Yr Ariannin

Does yna ddim lle i Sam Warburton yn nhîm Cymru i wynebu Samoa nos Wener.

Mae blaenasgellwr y Gweilch Justin Tipuric wedi ei ddewis yn hytrach na Warburton, oedd yn gapten Cymru yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Gyda Warburton ar y fainc, Ryan Jones sy'n etifeddu dyletswyddau'r capten.

Mae Rob Howley, hyfforddwr dros dro Cymru, wedi gwneud wyth o newidiadau o'r tîm gollodd 26-12 yn erbyn Ariannydd dydd Sadwrn diwethaf.

Yn ogystal â Tiperic a Ryan Jones, bydd Ashley Beck, Dan Biggar, Mike Phillips, Paul James, Richard Hibbard a Bradley Davies yn dechrau'r gêm i Gymru.

Mae'r canolwr Jamie Roberts wedi ei ddewis ar ol gwella o gnoc i'w ben yn erbyn Ariannin.

CYMRU: L Halfpenny (Gleision); A Cuthbert (Gleision), A Beck (Gweilch), J Roberts (Gleision), G North (Scarlets); D Biggar (Gweilch), M Phillips (Bayonne); P James (Bath), R Hibbard (Gweilch), A Jarvis (Gweilch), B Davies (Gleision), I Evans (Gweilch), R Jones (Gweilch, capt), J Tipuric (Gweilch), T Faletau (Newport Gwent Dragons).

Eilyddion: K Owens (Scarlets), G Jenkins (Toulon), S Andrews (Gleision), L Charteris (Perpignan), S Warburton (Gleision), T Knoyle (Scarlets), R Priestland (Scarlets), S Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.