Uned niwed i’r ymennydd am gau ym Mae Colwyn

Sgan MRI o'r ymennydd Image copyright Corbis
Image caption Bydd cartref Eithinog gerllaw yn aros ar agor

Mae 'na ymgynghoriad gyda 79 o weithwyr gofal iechyd uned elusennol ar gyfer niwed i'r ymennydd wedi cychwyn.

Mae uned Arfon Leonard Cheshire Disability ym Mae Colwyn ar fin cau wedi i'r claf olaf cael ei adleoli.

Bydd cartref Eithinog gerllaw yn parhau.

Ond mae staff yn y ddwy uned wedi bod yn rhan o'r trafodaethau.

Dywedodd yr elusen eu bod am barhau â gwasanaethau lleol eraill ac eisiau cadw'r rhai sy'n gorfod wynebu colli eu gwaith i'r lleiafrif.

Pum claf yn unig sydd wedi bod yn uned Arfon dros y misoedd diwethaf, meddai llefarydd.

Mae'r elusen felly wedi gorfod ail-feddwl eu sefyllfa.

Adeilad

Mae uned Eithinog yn gartref gyda gofal nyrsio ar gyfer cleifion anabl ifancach.

Ni fydd yn cael ei effeithio gan y cynlluniau i gau Arfon diwedd mis Tachwedd.

Ychwanegodd y llefarydd bydd uned Arfon yn parhau i gael ei chynnal gan staff wrth iddyn nhw ystyried beth i'w wneud gyda'r adeilad.

Maen nhw hefyd yn cyd-weithio gyda chomisiynwyr y gwasanaeth iechyd lleol i drafod anghenion pobl gydag anabledd yn yr ardal.

"Ar ôl ystyriaeth gofalus o'r gostyngiad yn y galw am ein huned arbennig ar gyfer niwed i'r ymennydd, rydym wedi cymryd y penderfyniad anodd i gau'r uned wrth i ni ail-feddwl ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol," meddai'r llefarydd.

"Mae 79 aelodau o staff am gael eu heffeithio ac rydym yn gweithio gyda nhw i gadw anghyflogaeth i'r lleiafrif."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.