Lladrad gwerth miloedd o bunnau o sigaréts

Car
Image caption Mae'r heddlu'n amau bod tri dyn yn gyfrifol

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio ar ôl i ladron ddwyn gwerth miloedd o bunnau o sigaréts o archfarchnad yng Nghaerdydd.

Fe gafodd car ei yrru i mewn i'r archfarchnad yn ardal Danescourt ychydig cyn 5:00am fore Iau.

Mae'r heddlu'n amau bod tri dyn yn gyfrifol gan yrru Ford Fiesta glas oedd wedi ei ddwyn drwy ffenestr y siop.

Gadawodd y lladron y car yn y siop cyn cerdded tuag at Feddygfa Danescourt.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.