Datganoli heddlu a chyfiawnder?

Theodore Huckle QC Image copyright BBC news grab
Image caption Daeth sylwadau Theodore Huckle QC wrth i'r etholiadau cyntaf ar gyfer swydd newydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru a Lloegr gael eu cynnal

Mae'r achos o blaid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru gryn dipyn yn wannach os na fydd y cyfrifoldeb am yr heddlu a chyfiawnder yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, yn ôl Cwnsler Cyffredinol Cymru.

Mewn araith yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd nos Iau, dywedodd Theodore Huckle QC fod amryw o'r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru yn cydnabod y bydd angen hynny rywbryd yn y dyfodol.

Roeddent hefyd yn credu, meddai, mai da o beth fyddai cymryd camau i baratoi ar gyfer hynny'n awr, er mwyn hwyluso'r broses o newid.

Mae Mr Huckle hefyd o'r farn fod y ffaith nad oes yna farnwr o Gymru yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn annerbyniol.

Daeth ei sylwadau wrth i'r etholiadau cyntaf ar gyfer swydd newydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru a Lloegr gael eu cynnal.

Ar hyn o bryd mae deddfau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, ar gyfer Cymru, yn ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr er eu bod efallai ddim ond yn effeithio Cymru.

Ond nid dyna'r drefn yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd eisoes ag awdurdodaeth gyfreithiol eu hunain.

'Cert heb geffyl'

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol: "Mae cysylltiad agos iawn rhwng yr achos dros sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân a'r ffordd y mae safle cyfansoddiadol y DU yn datblygu, a lle Cymru o'i fewn.

"Un o'r themâu amlycaf yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad oedd y gred y byddai cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru heb system o lysoedd rhanbarthol, yng ngeiriau un ymatebydd, fel "cert heb geffyl".

"Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffordd y mae cyfraith Cymru yn datblygu fwyfwy i gyfeiriad gwahanol i'r gyfraith sydd mewn grym yn Lloegr.

"Roeddent o'r farn y bydd hynny'n parhau wrth i'r Cynulliad ddal i ddeddfu yn y meysydd y mae'n gyfrifol amdanynt, ac felly mae'n ddigon posibl y bydd y gyd-awdurdodaeth sydd ohoni'n dod i gael ei hystyried, ymhen amser, yn system na ellir ei chynnal.

"Bydd hynny'n cryfhau'r angen am awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru, a hynny'n gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, er mwyn osgoi ymateb yn adweithiol a goddefol i'r datblygiad cyfreithiol ac ymarferol anorfod hwn."

1999

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol mai datganoli pwerau dros yr heddlu a chyfiawnder troseddol i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol fyddai'r ychwanegiad unigol mwyaf i'w cyfrifoldebau ers cychwyn datganoli ym 1999.

Dywedodd: "A allwn fforddio gwneud hyn ar adeg pan fo'r gyllideb yn gwegian, heb unrhyw ryddhad ar y gorwel, a ninnau newydd golli 20 y cant o'n staff yn sgil ad-drefnu'r gwasanaeth sifil?

"A allwn fod yn hyderus, gyda'r adnoddau sydd ar gael inni, y bydd modd cynnal neu wella ansawdd y gwasanaeth y mae pobl Cymru yn ei dderbyn?

"Mae'r atebion i'r cwestiynau hyn yn hanfodol i'r cwestiwn cysylltiedig, ond gwahanol, o gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.

"Os na all Llywodraeth Cymru symud ymlaen yn awr i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am yr heddlu a'r system cyfiawnder, am ba bynnag reswm, efallai y bydd yr achos o blaid awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân gryn dipyn yn wannach.

"Prin y byddai'n werth mynd ar drywydd awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân "mewn egwyddor", os o gwbl, oni bai fod Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad hefyd yn sicrhau set gymharol lawn o bwerau ym maes cyfiawnder."

Comisiwn Silk

Yn gynnar y flwyddyn nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i gais Comisiwn Silk am dystiolaeth ar gyfer ail ran ei ymchwiliad i ddatganoli, a bydd eu casgliadau ar yr achos dros awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn ffurfio rhan o'r cyflwyniad hwnnw.

"Nid ydym wedi ffurfio barn ymlaen llaw ar y mater hwn ac rydym yn dal i ystyried pob un o'r opsiynau, gyda golwg ar ddatblygu ymatebion ymarferol er budd pendant i bobl Cymru", ychwanegodd Mr Huckle.

Straeon perthnasol