Cyngor Abertawe yn agor siop 'gwastraff ailgylchu'

Cynnwys Y Siop Gornel Image copyright Swansea council
Image caption Mae'r nwyddau yn cynnwys offer y gegin, dodrefn, offerynnau cerdd a theganau.

Mae cyngor wedi agor siop ar un o'u safleoedd ailgylchu fydd yn gwerthu nwyddau mae pobl am eu gwaredu.

Bydd eitemau yn Y Siop Gornel yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet yn cael eu gwerthu am bunt yr un ac fe fydd yr elw yn cael ei drosglwyddo i elusennau addysgol.

Mae'r nwyddau sydd wedi cael eu casglu hyd yn hyn yn cynnwys offer y gegin, dodrefn, offerynnau cerdd a theganau.

Dywed Cyngor Abertawe fod y siop yn ffordd arall o gyrraedd eu targedau tirlenwi.

Dywedodd Trish Flint, swyddog ailgylchu'r cyngor: "Rydym wedi derbyn gymaint o ddeunydd rydym wedi gorfod ychwanegu uned arall ar gyfer y dodrefn."

Yn Abertawe, yn ystod 20011/12, cafodd 31,186 tunnell o wastraff ei anfon yn syth i safleoedd tirlenwi oedd yn is na tharged y cyngor o 42,858 tunnell.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor for y targedau yn is bob blwyddyn a'u bod felly yn mynd yn anos i'w cyrraedd.

Dywedodd June Burtonshaw, sy'n aelod o'r cabinet: "Bydd angen inni barhau i ailgylchu mwy o wastraff y cartref yn flynyddol fel y gallwn ni gyrraedd ein targedau.

"Mae'r Siop Gornel yn enghraifft wych fel y gallwn ni fel cyngor ddatblygu ffyrdd arloesol i leihau'r gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.