Scarlets 22-16 Gleision

Scarlets Image copyright Arall
Image caption Ar adegau roedd y chwarae'n ffyrnig rhwng dynion y gorllewin a'r dwyrain

Scarlets 22 Gleision 16

Dangosodd y Scarlets eu cymeriad oherwydd ar un adeg roedden nhw'n colli 13-3 yn y Cwpan LV.

Maswr y Scarlets sgoriodd y cais cynta' cyn i wŷr y ddinas wrthymosod yn ffyrnig - Luke Hamilton yn croesi'r llinell a Gareth Davies yn trosi a chicio dwy gic gosb.

Ymateb y tim cartre' oedd cais cosb, Gareth Owen yn trosi a Liam Williams yn cicio cic gosb.

Yn yr ail hanner trosodd Aled Thomas dair cic gosb i'r Scarlets tra chiciodd Gareth Davies un i'r Gleision.

Scarlets: Liam Williams, Kristian Phillips, Gareth Maule, Gareth Owen, Andy Fenby, Dan Newton, Rhodri Williams; Shaun Hopkins, Kirby Myhill, Samson Lee, Jake Ball, Johan Snyman, Craig Price, Jonathan Edwards (capten), Kieran Murphy.

Eilyddion: Emyr Phillips, Phil John, Jacobie Adriaanse, Joel Galley, Dan Thomas, Gareth Davies, Aled Thomas, Nick Reynolds.

Gleision: Dan Fish, Harry Robinson, Owen Williams, Gavin Evans, Tom James, Gareth Davies, Robert Lewis; Sam Hobbs, Marc Breeze, Ryan Harford, Macauley Cook, James Down, Luke Hamilton, Thomas Young, Andries Pretorius.

Eilyddion: Rhys Williams, Campese Mafu'u, Foa Filise, Cory Hill, Rory Watts-Jones, Lloyd Williams, Ceri Sweeney, Rhys Patchell.