Rygbi: 'Taro bargen cyn Nadolig'

Roger Lewis
Image caption Roger Lewis: 'Mae'r trafod bron ar ben.'

Mae Pennaeth Undeb Rygbi Cymru wedi dweud y bydd cytundeb rhwng yr undeb a'r rhanbarthau'n cael ei gyhoeddi cyn Nadolig.

Dywedodd Roger Lewis wrth Huw Edwards ar raglen The Wales Report y byddai cytundeb "o fewn wythnosau".

"Mae'r trafod bron ar ben," meddai.

Byddai'r cefnogwyr yn fodlon ar ganlyniadau trafodaethau "diplomataidd" rhwng yr undeb a'r rhanbarthau ers misoedd, meddai.

Pan ofynnodd y cyflwynodd a oedd problemau'r rhanbarthau'n effeithio ar y tîm cenedlaethol, dywedodd Mr Lewis fod y mater yn "ddifrifol iawn".

'Statws yn uwch'

"Pan ddaethon ni'n ôl o Gwpan y Byd y llynedd roedd ein statws yn uwch a'n perfformiad yn well.

"Enillon ni'r Gamp Lawn ac enillodd y Gweilch y RaboDirect eleni - ni ddylai neb anghofio hyn.

"Ond mae effeithiau problemau'r rhanbarthau wedi bod yn ddifrifol iawn."

Pan ofynnwyd iddo beth oedd ei farn am berfformiad Cymru'n ddiweddar dywedodd: "Os ydyn ni'n dda, rydyn ni'n arbennig.

"Os ydyn ni'n wael, rydyn ni'n ofnadwy.

"Ond mae modd cywiro'r broblem ac rwy'n hyderus y gallwn ni wneud hynny."

The Wales Report, 10.25pm, BBC Cymru, nos Sul