Galw am hwb cymunedol i bêl-droed

Hyfforddi Chwaraewyr Clwb Port Tabot
Image caption Mae angen gwell cydweithrediad i hybu'r gynghrair

Fe fydd Uwchgynghrair Cymru "yn ei chael yn anodd symud ymlaen a datblygu" heb fod yna gydweithredu rhwng y clybiau, cymunedau a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru.

Dyna rybudd un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi bod yn ymchwilio i gyflwr y gêm yng Nghymru

Yn ôl adroddiad pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth leol mae angen i Lywodraeth Cymru a'r Gymdeithas gyd-weithio er mwyn i glybiau ddatblygu'n ganolbwynt i'r cymunedau.

Dywedodd y Gymdeithas y byddan nhw'n ymateb yn y dyddiau nesaf.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod angen i feysydd chwarae fod yn rhai sydd o fudd i bobl leol yn ogystal â'r clybiau.

Fe wnaeth y pwyllgor gychwyn ymchwilio i ddyfodol y gynghrair, a sefydlwyd yn 1992, yn gynharach eleni.

Mae'r pwyllgor yn argymell bod y Gymdeithas, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r clybiau eu hunain, yn "ystyried cyfleoedd" i gael cefnogaeth ariannol i roi arwynebedd newydd ar feysydd chwarae, sy'n cael eu galw'n feysydd trydedd a phedwaredd genhedlaeth.

Mae'n dweud bod meysydd o'r fath "yn hawdd i'w cadw, yn wydn ac yn amlbwrpas gan olygu bod modd eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau a allai cymunedau elwa ohonyn nhw gan roi'r hwb ariannol i glybiau".

Fe wnaeth y pwyllgor gynnal cyfres o gyfarfodydd led led Cymru gan wahodd clybiau i fynegi eu syniadau a'u pryderon.

"Roedd llawer ohonyn nhw'n ystyried corff llywodraethu'r gamp, sef Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, yn amherthnasol, neu nid oedden nhw'n gallu gweld manteision y strategaethau a ddatblygwyd gan y sefydliad ar lawr gwlad."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Alun Thomas yn holi Rhodri Glyn Thomas, un o aelodau'r pwyllgor

Mae'r Gymdeithas Bêl-Droed wedi dweud eu bod yn croesawu'r ymchwiliad.

Dywedodd Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, bod rhai o'r chwaraewyr pêl-droed gorau wedi dod o Gymru ac er mwyn "dod o hyd i'r John Charles, Ryan Giggs neu Gareth Bale nesaf, rhaid cael cynghrair cartref llwyddiannus a chadarn a fydd yn dod o hyd i'r chwaraewyr hyn ac yn eu datblygu".

"Mae llwyddiant Uwchgynghrair Cymru yn dibynnu ar ei chynaliadwyedd, a dyna'r rheswm rydym wedi argymell bod clybiau, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd sy'n bod eisoes o ddatblygu'r gymuned a chael cymorth ariannol.

"Mae gosod meysydd chwarae trydedd a phedwaredd genhedlaeth yn rhan fawr o'r model hwn .... a gall fod yn sail i gyfleusterau o'r radd flaenaf i ddatblygu strwythurau academi pêl-droed.

"Nododd y Pwyllgor y datblygiadau sylweddol a gyflawnwyd yn barod gan Uwchgynghrair Cymru ers ei sefydlu a'r diwylliant mwy agored a fabwysiadwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Ond rydym ni'n annog pawb i ddechrau datblygu perthynas well â'i gilydd. Oni bai fod pawb yn cydweithredu, bydd Uwch Gynghrair Cymru yn ei chael hi'n anodd symud ymlaen."