Alan Linton a Vinnie Jones
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Hysbyseb gyda Vinnie Jones yn 'achub bywydau'

19 Tachwedd 2012 Diweddarwyd 13:03 GMT

Mae yna ganmol mawr wedi bod i gyn bêl-droediwr Cymru Vinnie Jones a'i ran mewn hysbyseb deledu i achub bywydau.

Mae'r hysbyseb sy'n cynnwys y gan Staying Alive gan y Bee Gees yn dangos y dechneg o achub bywyd i rythm y gân.

Mae son bod 28 o fywydau wedi eu hachub gan bobl oedd yn cofio'r hysbyseb gafodd ei chomisiynu gan Sefydliad y Galon.

Cafodd Delyth Lloyd o'r Sefydliad ei holi gan Alun Thomas ar raglen y Post Cyntaf.