Ffarwelio â'r teipiadur olaf

teipiadur
Image caption Mae'r cyfrifiadur wedi hen ddisodli'r teipiadur ym myd technoleg

Bydd gogledd Cymru yn ffarwelio gyda hen dechnoleg ddydd Mawrth wrth i'r teipiadur olaf i gael ei gynhyrchu ym Mhrydain adael ffatri Brother yn Wrecsam.

Mae'r cwmni o Japan wedi bod yn cynhyrchu teipiaduron yn eu ffatri yn Rhiwabon er 1985, ac ers hynny mae ymhell dros bum miliwn o'r peiriannau wedi dod oddi yno.

Pan sefydlodd y cwmni eu ffatri yng ngogledd Cymru, roedd yna gystadleuaeth gan tua ugain o gwmnïau eraill ar draws Ewrop mewn marchnad oedd yn llewyrchus iawn ar y pryd.

Ar un cyfnod roedd rhwng 250 a 300 o staff yn cael eu cyflogi yn Wrecsam yn cynhyrchu teipiaduron.

Ond yn gynnar yn y 1990au, fe ddechreuodd y busnes arafu gyda dyfodiad cyfrifiaduron, ac erbyn diwedd y ganrif roedd y farchnad yn prysur ddiflannu.

Wrth i'r teipiadur olaf ddod o'r ffatri yn Rhiwabon, dim ond deg o staff sydd bellach yn adeiladu'r peiriannau yno.

Ond ni fydd y teipiadur olaf yn cael ei ddefnyddio chwaith.

Mae'r peiriant - model CM100 - ar ei ffordd yn syth i'r Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain i fod yn rhan o gasgliad o dros 200 o deipiaduron sy'n dyddio nôl 130 o flynyddoedd.