Pum newid cyn wynebu Seland Newydd

Sam Warburton
Sam Warburton yn dychwelyd i arwain Cymru yn erbyn Seland Newydd

Mae pum newid yn nhîm rygbi Cymru cyn wynebu Seland Newydd ddydd Sadwrn.

Bydd y capten, Sam Warburton, yn dychwelyd i arwain y tîm o'r rheng ôl gyda Justin Tipuric yn eistedd ar y fainc.

Mae dau newid oherwydd anafiadau Dan Biggar ac Ian Evans - a Rhys Priestland a Luke Charteris fydd yn llenwi'r bylchau.

Yn y canol mae Jonathan Davies wedi gwella o'r anaf a'i cadwodd allan o'r ddwy gêm gyntaf yng nghyfres yr hydref, gydag Ashley Beck yn symud i'r fainc.

Hefyd mae bachwr y Scarlets, Matthew Rees yn dychwelyd i'r rheng flaen yn lle Richard Hibbard.

'Anrhydedd'

Prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, fydd wrth y llyw eto yn erbyn Seland Newydd ac Awstrlia a dywedodd ei fod yn ymwybodol o'r dasg.

"Mae'n anrhydedd cael chwarae yn erbyn pencampwyr y byd yn Stadiwm y Mileniwm y penwythnos hwn.

"Mae atgofion o Gwpan y Byd a'r daith i Seland Newydd yr haf blaenorol yn dal yn fyw yn y cof i nifer o chwaraewyr a staff.

"Roedd y croeso a gawsom wedi sicrhau bod y profiad yn arbennig.

"Y Crysau Duon yw un o'r timau gorau i chwarae'r gêm erioed, fwy na thebyg y tîm gorau erioed o Seland Newydd. Felly fe fydd yn anrhydedd cael profi ein hunain yn eu herbyn.

"Does neb yn fwy siomedig na'r chwaraewyr a'r hyfforddwyr am yr hyn sydd wedi digwydd dros y pythefnos diwethaf.

"Ond mae'r cefnogwyr sydd wedi ein dilyn ni dros y 18 mis diwethaf yn gwybod ein bod yn dîm gwell na'r hyn y maen nhw wedi ei weld hyd yma, ac fe fyddwn ni'n ceisio profi hynny ddydd Sadwrn."

Tîm Cymru v. Seland Newydd: Stadiwm y Mileniwm, ddydd Sadwrn, Tachwedd 24

Olwyr

15. Leigh Halfpenny (Gleision)

14. Alex Cuthbert (Gleision); 13. Jonathan Davies (Scarlets); 12. Jamie Roberts (Gleision); 11. George North (Scarlets)

10. Rhys Priestland (Scarlets); 9. Mike Phillips (Bayonne)

Blaenwyr

1. Paul James (Caerfaddon); 2. Matthew Rees (Scarlets); 3. Aaron Jarvis (Gweilch)

4. Bradley Davies (Gleision); 5. Luke Charteris (Perpignan)

6. Ryan Jones (Gweilch); 8. Toby Faletau (Dreigiau); 7. Sam Warburton (Gleision, capten)

Eilyddion

Ken Owens (Scarlets), Gethin Jenkins (Toulon), Scott Andrews (Gleision), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Tavis Knoyle (Scarlets), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).