Clinig iechyd arbennig i ddisgyblion Cwmcarn

Cwmcarn High School
Image caption Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau ar ddydd Gwener Hydref 12

Mae clinig iechyd arbennig wedi cael ei sefydlu ar gyfer disgyblion a rhieni ysgol gafodd ei chau wedi i weithwyr ddarganfod asbestos yno.

Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau ddydd Gwener Hydref 12.

Mae'r disgyblion bellach yn cael eu haddysgu 12 milltir i ffwrdd ar gampws Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy ac mae disgwyl i'r trefniant hwn barhau tan ddiwedd y flwyddyn addysgol.

Yn ôl adroddiad gyhoeddwyd ddydd Llun, mae lefelau asbestos yn yr ysgol ddeg gwaith yn uwch na'r lefelau derbyniol.

Santia Asbestos Management Limited luniodd yr adroddiad, sy'n casglu fod yr asbestos yn "risg difrifol i iechyd" ac y dylid dymchwel yr adeilad.

'Trafod pryderon'

Dydd Mercher bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chyngor Caerffili yn cynnal clinig iechyd i drafod unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion a'u rhieni.

Bydd y clinig yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Rhisga rhwng 12pm a 7pm.

Dywedodd Dr Gill Richardson, cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Bydd y clinig yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr a rhieni drafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw wyneb yn wyneb â swyddogion iechyd cyhoeddus."

Mae Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn pob ysgol i baratoi adroddiad ar lefelau asbestos yn eu hadeiladau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.