Llys yn barnu bod mesur cyntaf y Cynulliad yn gyfreithlon

Mae'r Goruchaf Lys wedi dweud bod y mesur cyntaf gafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ers iddo gael pwerau deddfu yn gyfreithlon.
Fe gafodd y mesur, sy'n newid y ffordd y mae cynghorau yn gwneud deddfau lleol, ei gyfeirio at y llys gan y Twrnai Cyffredinol oedd yn honni bod rhannau ohono y tu hwnt i bwerau'r Cynulliad.
Roedd Llywodraeth Cymru yn gwadu hynny ac fe benderfynodd pum barnwr yn y llys ddydd Mercher bod y mesur o fewn pwerau'r corff.
Cafodd y mesur ei gymeradwyo yn unfrydol gan Aelodau Cynulliad ym mis Gorffennaf.
Gan fod y llys wedi dyfarnu bod y mesur yn gyfreithlon, bydd yn mynd gerbron y Frenhines cyn dod yn un o ddeddfau'r Cynulliad.
'Priodol'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones: "Rwyf i a'r Twrnai Cyffredinol yn ddiolchgar i'r Goruchaf Lys am roi eglurdeb ar y mater.
"Fel y pwysleisiodd yr Arglwydd Hope, roedd yn gwbl briodol i'r Twrnai Cyffredinol gyfeirio'r mater i'r Goruchaf Lys.
"Bydd y farn yn cynorthwyo llywodraethau Cymru a'r DU i wybod lle mae ffiniau datganoli.
"Yn benodol, mae'n egluro i ba raddau y gall gweinidogion Cymru ddefnyddio'u pwerau i newid is-ddeddfau yn y dyfodol.
"Bydd llywodraeth y DU yn parhau i wneud pob ymdrech i sicrhau bod y drefniadaeth ddeddfu yn gweithio'n effeithiol.
"Ni ddylid ystyried unrhyw gyfeirio at y Goruchaf Lys fel rhywbeth gelyniaethus ond yn hytrach fel mecanwaith priodol i sicrhau bod datganoli yn gweithio'n llyfn."
'Buddugoliaeth'
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC, fod penderfyniad y llys yn "fuddugoliaeth" i'r Cynulliad.
"Mae'n cadarnhau awdurdod y cyngor cyfreithiol a roddwyd i mi," meddai, "ac yn dangos bod y Cynulliad yn sefydliad aeddfed â'r gweithdrefnau a'r staff cywir i ddehongli a gweithredu'r setliad datganoli.
"Ac mae ein system creu deddfau yng Nghymru yn unigryw ac yn dal i esblygu.
"Mae'n fwy cymhleth yn ei dull na'r modelau yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'r dyfarniad heddiw yn bennod arall yn y broses sy'n dangos bod y Cynulliad yn creu deddfau da i Gymru."