Arestio dau ar amheuaeth o lofruddio wedi i fabi mis oed farw

Mae dau o ardal Cwmbrân wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i fabi mis oed farw.

Y ddau yw dyn 43 oed a dynes 24 oed.

Galwodd y gwasanaeth ambiwlans Heddlu Gwent i Ffordd Waun Hywel yn ardal Pontnewydd yng Nghwmbrân tua 10.35pm nos Sadwrn.

Roedden nhw'n poeni am gyflwr iechyd Amelia Jones.

Aed â hi i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd cyn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Bu farw yno ddydd Llun.

Cadarnhaodd yr heddlu, sy'n trin y farwolaeth fel un amheus, nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall.

Mae swyddfa Crwner Caerdydd wedi dweud eu bod yn disgwyl mwy o wybodaeth am agor y cwest yr wythnos nesaf.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.