Apêl wedi gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar Y Cob

Y Cob, Porthmadog

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad ar Y Cob, Porthmadog, ddydd Mercher.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd tua 3.20pm ar yr A487.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw a bu'n rhaid cau'r rhan yna o'r ffordd am gyfnod.

Roedd y tri cherbyd, Peugeot 207 coch, Suzuki Splash du a Renault Scenic gwyrdd, yn teithio i gyfeiriad Minffordd.

"O ganlyniad i'r gwrthdrawiad cafodd dau o bobl, dynes yn ei 60au a dyn yn ei 20au - y ddau yn lleol - anafiadau difrifol," meddai'r heddwas Dafydd Jones o uned plismona'r heddlu.

"Dydi'r anafiadau ddim yn rhai angheuol.

"Mae'r ddau yn parhau yn yr ysbyty.

"Hoffem glywed gan unrhyw un oedd ar Y Cob ddydd Mercher ac a allai fod wedi tystio i'r hyn ddigwyddodd."

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 yn lleol neu gysylltu gyda Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 gan nodi'r cyfeirnod N192584.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.