Enwi'r tîm fydd yn arwain y broses o uno prifysgoion

Yr Athro Julie Lydon a Andrew Wilkinson Image copyright University of Glamorgan
Image caption Yr Athro Julie Lydon ac Andrew Wilkinson

Mae'r ddwy brifysgol yn y de sydd wedi cytuno i uno wedi enwi'r unigolion fydd yn arwain y sefydliad newydd.

Bydd Andrew Wilkinson, cadeirydd llywodraethwyr Casnewydd a'r athro Julie Lydon, is ganghellor Morgannwg gyda'r cyfrifoldeb o arwain y corff newydd yn 2013.

Mae disgwyl i enw'r brifysgol newydd gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Yn gynharach y mis hwn rhoddwyd y gorau i gynlluniau i orfod trydedd brifysgol, prifysgol fetropolitan Caerdydd, i uno yn y sefydliad newydd.

Roedd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi gwrthwynebu'r pwysau i uno.

Daw cyhoeddiad prifysgolion Morgannwg a Chasnewydd ar ôl arolwg i sicrhau nad oedd yna unrhyw rwystr ariannol i'r uno.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi eu bod o blaid ad-drefnu addysg uwch yng Nghymru, er mwyn lleihau nifer y prifysgolion a chreu sefydliadau mwy.

Dywed swyddogion y bydd y sefydliad newydd yn cystadlu gyda phrifysgol Caerdydd o ran nifer y myfyrwyr a staff.

Dywedodd yr Athro Lydon: "Tra bod gan y ddau sefydliad hanes o gynrychioli cymunedau de Cymru, wedi'r uno byddwn yn gryfach a bydd cyfle i gynyddu'r addysg sydd ar gael ar gyfer y de-ddwyrain er lles y bobl, y cymunedau a'r busnesau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.