Cofio Sulyn - Papur Sul Gwynedd

Papur newydd Sulyn
Image caption Papur newydd Sulyn

Mae hi'n dymor o ddathlu a chofio ym myd y cyfryngau Cymraeg.

Yn gynharach yn y mis roedd pen-blwydd S4C yn 30 oed, ond un arall a anwyd yn 1982 oedd y papur newydd Cymraeg - y Sulyn.

Yng Ngwynedd yn unig y dosbarthwyd y rhifyn newydd hwn, a hwn oedd y papur Sul cyntaf i'w gyhoeddi yn Gymraeg. Ond byr oedd ei fywyd.

Fformat tabloid oedd iddo, ac roedd baner goch y dudalen flaen yn dynwared The Sun neu'r Mirror, ond roedd ei gynnwys yn delio â straeon at ddant y gymuned leol.

"Roeddwn ni yn trio gwneud pethau 'showbiz' hefyd, a bod yn onest. Dwi'n cofio un o'r straeon fwyaf trawiadol gwnaethon ni oedd ynglŷn â 'showbiz' Cymru pan oedd un o'r grwpiau'n chwalu," meddai Eifion Glyn, oedd yn olygydd Sulyn.

Symleiddio

Roedd ymdrech i ddod ag iaith y bobl, yn hytrach nag iaith ffurfiol i dudalennau'r Sulyn.

Meddai Eifion Glyn: "Yn sicr roeddwn i'n meddwl bod angen symleiddio'r iaith.

"Mae yna ormes llenyddol yng Nghymru, ac rydyn ni'n meddwl bod rhaid i bob un dim rydyn ni'n ysgrifennu fod yn rhyw lenyddiaeth fawr, ond dydy hynny ddim yn wir."

Brwydr ariannol oedd yr ornest i dîm cynhyrchu Sulyn trwy gydol ei fodolaeth fer. Roedd Dylan Iorwerth yn olygydd newyddion i'r papur.

"Ar y pryd doedd yna fawr ddim cefnogaeth ariannol i gael gan unrhyw gorff. Roedd yna rhai unigolion dewr a hael yn buddsoddi yn y cwmni, ond gwnaeth llawer iawn eraill wrthod y cyfle," meddai.

"Felly roeddwn ni'n brin o arian yn y lle cyntaf, ac wrth i ni fynd yn ein blaenau doedd yr incwm ddim yn ddigon i wneud iawn am hynna, felly roeddwn ni'n colli'r ras drwy'r amser."

Ond nid diffyg arian oedd yr unig rwystr i fodolaeth y Sulyn.

"Er ein bod ni'n gwmni cydweithredol hollol, allwch chi ddim cael dim byd mwy sosialaidd mewn ffordd, ddaru'r undebau drio ein rhwystro ni ar un adeg," meddai Mr Iorwerth.

"Cawsom ni lot o rwystredigaeth oedd yn ein hatal ni rhag gwneud pethau eraill, a phethau buasai wedi helpu sicrhau bod y papur yn ffynnu."

Golwg

Yn llyfrgelloedd Cymru mae copïau o'r Sulyn bellach. Ym Mhrifysgol Caerdydd mae pob rhifyn o'r papur yn ddiogel yn llyfrgell y celfyddydau, wedi'u rhwymo mewn lledr coch, a'u tudalennau nawr wedi melynu.

Mae'r diwydiant cyfryngau wedi newid tipyn ers y 1980au cynnar.

Ar y pryd, papurau newydd oedd un o'r ffynonellau sylfaenol i ddosbarthu gwybodaeth, canlyniadau a hysbysebion, gyda miliynau o bobl ledled Prydain yn dibynnu arnynt bob dydd.

Erbyn heddiw, y we yw cartref y newyddion diweddaraf.

Yn ôl Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Aberystwyth, dyma ble gall papurau newydd ieithoedd lleiafrifol y byd ddenu darllenwyr newydd.

"Mae papurau ieithoedd lleiafrifol nawr yn cyhoeddi ar y we, yn ogystal â bod nhw'n cyhoeddi mewn print," meddai Mrs Gruffydd Jones.

"Y modelau print sydd dal i gynnal y modelau busnes, ond dyma'r cyfeiriad mae'r papurau yn mynd."

Ar ôl i'r Sulyn ddod i ben, aeth Dylan Iorwerth ymlaen i sefydlu cylchgrawn Golwg, ac mae'n parhau i ysgrifennu a darlledu yn Gymraeg.

At fyd y sgrin fach aeth Eifion Glyn, fel gohebydd a chynhyrchydd i raglen faterion cyfoes S4C, y Byd ar Bedwar.

Ond atgofion hapus am gyfnod cyffrous yn hanes y wasg yng Nghymru sydd gan y ddau hyd heddiw, 30 mlynedd ers bodolaeth fer y Sulyn.

Straeon perthnasol