Dechrau clirio wedi'r llifogydd

Mae pobl yn dechrau cyfri'r gost wedi diwrnod o lifogydd difrifol a gwyntoedd cryfion ddydd Iau, wrth i'r gwaith o lanhau'r llanast ddechrau.

Bu llifogydd ar ffyrdd ac mewn cartrefi ledled Cymru, ac roedd teithio yn anodd iawn i lawer, gyda'r gogledd-orllewin yn diodde' waethaf.

Yn dilyn noson o drafferthion yn y gogledd, cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru bod yr A55 wedi ailagor yn rhannol yng nghyffiniau Bangor yn oriau man y bore.

Caeodd y ffordd yn gyfan gwbl rhwng cyffordd 12 (Tal-y-bont) a chyffordd 11 (Bangor) brynhawn Iau, ac fe ddaeth adroddiadau i law am bobl fu'n eistedd yn eu ceir am wyth awr a mwy.

Yng Ngwynedd a Sir Conwy agorwyd tair canolfan frys i'r rhai oedd wedi eu heffeithio gan lifogydd er mwyn rhoi lloches a bwyd i yrwyr ac eraill sydd wedi eu heffeithio.

llifogydd ar A55
Roedd trafnidiaeth ar stop ar yr A55 ger Bangor

Y canolfanau yw Canolfan Hamdden Cyffordd Llanudno, Canolfan Hamdden Caernarfon ac Ysgol Friars Bangor.

'Gofal ychwanegol'

Erbyn bore Gwener roedd un lon o'r briffordd wedi agor i'r ddau gyfeiriad.

Dywedodd y Prif Arolygydd Alex Goss: "Mae peiriannau jac-codi-baw a staff 'sgubo ffyrdd sy'n gweithio i Asiantaeth Briffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi clirio rhan o'r A55 yn Nhal-y-bont, Bangor yn ddigon da i fedru ailagor un lon i'r ddau gyfeiriad, ac i ganiatau i drafnidiaeth ddechrau symud unwaith eto.

"Bydd archwiliad pellach o'r ffordd yn digwydd yng ngolau dydd pan y bydd yr holl asiantaethau yn canolbwyntio'u hymdrechion i ailagor yr A55 yn llawn cyn gynted ag sy'n ymarferol.

"Tan hynny, bydd cyfyngiad o gyflymder o 40 m.y.a. yn weithredol.

"Er bod y tywydd a'r tagfeydd wedi gwella, rydym yn dal i gynghori modurwyr i deithio ond os yw hynny'n angenrheidiol, ac i wirio'r sefyllfa gyda Traffig Cymru, radio neu deledu lleol ac ati, ac i gymryd gofal ychwanegol gan y bydd y ffyrdd yn parhau yn wlyb iawn."

O ran y trenau does dim gwasanaethau rhwng Bangor a Chaergybi yn y gogledd oherwydd llifogydd rhwng Llanfairpwll a Bodorgan.

Gobaith Trenau Arriva Cymru a Threnau Virgin yw ail-ddechrau'r gwasanaeth erbyn hanner dydd ddydd Gwener.

Yn y de, mae amharu ar wasanaethau rhwng Llundain a de Cymru oherwydd llifogydd yn ardal Swindon.

Mae un rhybudd llifogydd yn dal mewn grym - Afon Erch yn Abererch ger Pwllheli yng Ngwynedd - ac mae 23 o rybuddion i baratoi am lifogydd hefyd mewn grym ar draws y wlad.

Gellir gweld manylion llawn y rhybuddion ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd..

Bydd y gwaith glanhau yn cymryd tipyn mwy o amser.

Yn Llanberis, Gwynedd, fe lifodd dŵr i mewn i dros 100 o gartrefi, tra yng Nghapel Curig yn Eryri cofnodwyd gwyntoedd o 86 milltir yr awr.

Roedd cychod yn cael eu defnyddio wrth achub plant Ysgol Dolbadarn, Llanberis.

Yn Aberdaugleddau yn Sir Benfro fe gafodd car, oedd yn aros yn ei hunfan, ei daflu yn erbyn adeilad banc yn y dre.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod y rhai oedd yn y Peugeot 206 wedi eu cludo i'r ysbyty - ond nid oeddynt wedi cael anafiadau difrifol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw hefyd i helpu dynes aeth i drafferthion ar ôl i'w char gael ei ddal mewn llif afon yn ardal Sanclêr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Gall aelodau o'r cyhoedd sy'n cael trafferthion o achos y tywydd ffonio Galw Gwynedd, sef canolfan gyswllt y Cyngor, ar 01766 771000."

Roedd y gwynt ar gyflymder o 70 mya yng Nghapel Curig, Conwy, a 62 mya yn Aberdaron, Gwynedd, ac bu llifogydd hefyd ar yr A5 yng Nghapel Curig.

Yn y gorllewin roedd llifogydd yn Nhrewyddel, gwteri wedi gorlifo yn Llandudoch, a choed wedi cwympo yn Stepaside, Summerhill, Tre-fin a Phenfro.