Rhybudd am fwy o law a gwyntoedd

Llifogydd yn Rhostryfan, Gwynedd Image copyright Bedwyr Williams
Image caption Llifogydd yn Rhostryfan, Gwynedd ddydd Iau

Wrth i bobl barhau i gyfri'r gost a glanhau'r llanast wedi diwrnod o lifogydd difrifol a gwyntoedd cryfion ddydd Iau, mae 'na rybudd am fwy o law a gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl rhwng 20 a 40mm, sef 1 - 2 modfedd, o law, a gyda'r tir mor wlyb eisoes mae'n na beryg y gallai hynny achosi rhagor o lifogydd.

Mae rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd i fod yn barod am fwy o dywydd garw yn y de a'r gorllewin ddydd Sadwrn, ac mae rhybudd melyn i bobman arall oherwydd fydd y glaw yn lledu tua'r gogledd ar hyd y wlad erbyn canol y prynhawn.

Wedyn fydd hi'n noson wlyb ym mhobman, a'r gwynt yn cryfhau yn yr oriau mân, ond er iddi ddechrau'n wlyb ac yn wyntog yn y gogledd dydd Sul, fydd hi'n troi'n sych ac eithaf braf yn y rhan fwyaf o lefydd, er bod disgwyl cawodydd ar adegau.

Mae disgwyl mwy o law nos Sul a dydd Llun.

10,000

Mae cwmni Western Power Distribution wedi rhoi staff ar alw oherwydd y rhagolygon o law ar gyfer dydd Sadwrn.

Roedd tua 10,000 o'u cwsmeriaid wedi colli eu cyflenwad trydan ddydd Iau, gyda'r problemau gwaethaf ym Mhenfro, Ceredigion a Chas-gwent.

Fe fydd to Stadiwm y Mileniwm ar gau brynhawn Sadwrn wrth i Gymru herio Seland Newydd yn nhrydedd gêm Cyfres yr Hydref, gyda'r gic gyntaf am 5.15pm.

Mae disgwyl 74,000 ar gyfer y gêm.

Ond cafwyd rhybudd gan gwmni Trenau Arriva y gallai rhaicefnogwyr wynebu oedi mewn gwasanaethau pe bai lleinellau yn cael eu heffeithio gan lifogydd.

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd dau rybudd 'byddwch yn barod am lifogydd' ar hyn o bryd, sef

  • Afonydd Gwy a Mynwy yn Sir Fynwy;
  • Afonydd de Sir Benfro

Gellir gweld manylion llawn rhybuddion llifogydd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd..

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.