Dod o hyd i gemegau 'peryglus'

Gwaith labordy (Llun Llyfrgell) Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r cwmni wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu

Bydd miloedd o lythyrau yn cael eu hanfon i gartrefi yn Sir y Fflint oherwydd pryderon am gemegyn a allai fod yn ffrwydrol ar safle ffatri.

Cafwyd hyd i'r cemegyn ISDN ar safle Euticals Limited, yn Sandycroft ar Lannau Dyfrdwy yn ystod arolwg gan swyddogion y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Dywed y cwmni eu bod yn cynorthwyo'r holl awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu.

Mae'r cwmni wedi bod yn cynhyrchu'r cemegyn, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyffuriau i gleifion sy'n dioddef gydag angina, ers 35 mlynedd.

Maent wedi rhoi'r gorau i'r gwaith cynhyrchu am y tro ac mae disgwyl iddynt gyhoeddi datganiad mwy sylweddol cyn bo hir.

Mesurau diogelwch

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Sir Y Fflint, Colin Everett, fod mesurau diogelwch mwy llym wedi dod i rym ar y safle oherwydd pryderon y cyhoedd.

Bydd llythyr yn cael ei anfon i 3,000 o gartrefi a busnesau lleol i'w cynghori ynghylch unrhyw fesurau diogelwch sydd angen eu gweithredu.

"Fe fydd y cwmni yn cyhoeddi datganiad i'r wasg a gwybodaeth i'r cyhoedd, ond ar hyn o bryd rydym yn aros i'r awdurdodau roi sêl eu bendith ar y cynnwys," meddai Mr Everett.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.