Tlws yr FA

  • 24 Tachwedd 2012

Wrecsam 5-0 Rushall Olympic

Roedd yn hat-trick i'r chwaraewr rheolwr Andy Morell wrth i Wrecsam gamu i ail rownd Tlws yr FA ar y Cae Ras.

Adrian Cieslewicz a Declan Walker gafodd y ddwy gol arall.

Cafodd Hakeem Islam, amddiffynwr Rushall, ei anfon o'r cae gyda'r ymwelwyr yn colli 2-0.

Welling 2-0 Casnewydd

Y llynedd fe lwyddodd Casnewydd i gyrraedd ffeinal y gystadleuaeth, ond y tymor hwn maent wedi baglu ar y glwyd gyntaf.

Peniad Joe Healy roddodd y tim cartef ar y blaen, gyda Ben Martin yn ychwanegu'r ail wedi'r egwyl.