Apêl am wybodaeth am ddyn coll yng Ngwynedd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn 50 oed, sydd ar goll yn ardal Llanbedr yng Ngwynedd.

Doedd Geoffrey Alan Hunt ddim wedi dychwelyd adre' ddydd Iau diwetha'.

Dydy o ddim wedi cysylltu gyda'i deulu na'i ffrindiau ers hynny.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaethau brys eraill eu hysbysu ond methwyd a dod o hyd i Mr Hunt er gwaetha'r ymdrechion i chwilio amdano.

Credir fod Mr Hunt, sy'n hanu o Tamworth yn Sir Stafford, wedi bod yn gweithio yn ardal Harlech ddydd Iau ac yn gyrru car Ford Escort coch, gyda phlât cofrestru Y342 WGO.

Pryder

Roedd ganddo ddau gi Jack Russell gydag o.

Disgrifiodd yr heddlu Mr Hunt fel dyn chwe throedfedd o daldra, tenau, gyda gwallt brown at ei ysgwydd a barf.

Roedd yn gwisgo sbectol a phan welwyd ef ddiwetha' roedd yn gwisgo crys-T glas, crys llwyd gyda hwd, trowsus llwyd a gwyn ac esgidiau chwaraeon llwyd.

Mae hefyd yn gwisgo côt ledr a chap pig glas fel arfer.

Dywedodd Wynne Lane o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae teulu Mr Hunt yn poeni fwyfwy gan nad yw wedi'i ddarganfod ac maen nhw'n apelio ar i unrhyw un sydd wedi ei weld neu wedi gweld ei gerbyd, neu yn gwybod ble mae o, i gysylltu â'r heddlu."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.