Heddlu'n apelio wedi damwain yng Nghastell-nedd

Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi damwain am 10.15am yng Nghastell-nedd ddydd Llun.

Roedd y ddamwain ar Heol Castell-nedd, yr A474, ac roedd gwrthdrawiad rhwng Renault Clio arian a Citroen C2 glas.

Cafodd cerddwraig 53 oed ei tharo.

Roedd yr heol ar gau am bedair wrth i'r heddlu ymchwilio.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 01792 456999 Estyniad 88334.