Elw Eisteddfod Bro Morgannwg eleni yn £50,000

Fe wnaeth 138,767 o bobl ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg
Image caption Aeth 138,767 i Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg

Fe wnaeth Eisteddfod Bro Morgannwg elw o £50,000.

Cyhoeddwyd y newyddion yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth dros y penwythnos.

Targed Eisteddfod Dinbych yw £300,000 ac eisoes mae'r gronfa leol wedi mynd heibio £231,000.

Wrth gyfeirio at elw Prifwyl 2012, dywedodd Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod, eu bod yn dymuno "talu teyrnged i Dylan Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, a'i dîm ardderchog o wirfoddolwyr, a lwyddodd i gyrraedd - a phasio - targed uchelgeisiol o £300,000".

"Erbyn y diwedd, mae'r Gronfa Leol wedi cyrraedd 107% o'r targed, sy'n wych.

"Braf felly yw cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i greu gweddill o £50,000 yng ngŵyl eleni ...

"Diolch i bawb a fu'n rhan o'r gweithgareddau codi arian ac a fu'n rhan o'r trefniadau lleol ar gyfer Eisteddfod a fu'n wythnos ardderchog o gystadlu, cymdeithasu a mwynhau."

'Arbedion'

Dywedodd ei fod am ddiolch i'r cwmnïau a'r busnesau fu'n hael eu nawdd, gyda rhai noddwyr wedi bod gyda'r Brifwyl ers dros 30 mlynedd.

Eglurodd nad oedd hi wedi bod yn flwyddyn hawdd i'r Eisteddfod gan fod angen edrych yn ofalus ar bob gwariant yn ogystal â chwilio am arbedion ar draws holl waith y Brifwyl.

"Llwyddwyd i greu arbedion o tua £200,000 a'n gobaith yw na chafodd hyn effaith andwyol ar y profiad Eisteddfodol yn ystod yr wythnos," meddai Mr Roberts.

"Mae profiad a mwynhad ein hymwelwyr yn hollbwysig i ni fel trefnwyr.

"Dros y misoedd diwethaf rydym wedi adolygu a gwerthuso holl brosiect Bro Morgannwg ac mae'r adroddiad ar yr Eisteddfod wedi'i drafod gan y staff, y Bwrdd Rheoli a chan Gyngor yr Eisteddfod.

"Unwaith eto eleni, rydym yn cyhoeddi'r adroddiad hwn ar ein gwefan ac yn gwahodd unrhyw un i anfon sylwadau neu syniadau atom.

"Yn ei hanfod, prosiect cymunedol yw'r Eisteddfod Genedlaethol - gŵyl genedlaethol i bobl Cymru wedi'i threfnu gan bobl ardal benodol, sy'n dathlu ein hiaith a'n diwylliant, gan symud o le i le bob blwyddyn, yn cynnig cyfle i drigolion ardal leol i arwain y gwaith o drefnu Prifwyl diwylliant Cymru," ychwanegodd.

Cafodd adroddiad hefyd ei gyflwyno i'r Cyngor, sy'n argymell newidiadau pellach i'r Brifwyl - gan gynnwys cynyddu maint y Babell Lên a sicrhau fod stondinau ar y Maes yn aros ar agor yn hwyrach.

Nodwyd hefyd ystyried symud y cystadlaethau o Maes D a'u cynnal yn y Pagoda a'r Stiwdio fel gyda chystadlaethau eraill yr Eisteddfod a pharhau i gynnal gweithgareddau Maes C o amgylch y Maes, gan ddefnyddio amryw o adeiladau yn ystod yr wythnos.

Mae 'na adolygiad yn cael ei gynnal o weithgareddau Maes B a'r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc hefyd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.