Disgwyl cyhoeddi canlyniadau adolygiad cymhwysterau addysg

Disgybl yn gwneud arholiad
Image caption Mae'n bosib iawn y bydd systemau addysg gwledydd Prydain yn amrywio hyd yn oed rhagor yn y dyfodol

Os y'ch chi dan 40 oed, mae 'na siawns gref bod o leiaf un TGAU ganddoch chi. Ond, ddydd Mercher, cawn wybod a fydd y genhedlaeth nesaf yn ennill yr un cymhwyster ai peidio.

Ers mis Mai eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol cymwysterau disgyblion sydd rhwng 14 a 19 oed.

Yr arbenigwr addysg, a chyn-bennaeth Coleg Llandrillo, Huw Evans sydd wedi bod yn cadeirio'r adolygiad.

Bu'n holi prifysgolion, cyflogwyr, ysgolion ac undebau os yw'r cymwysterau sydd gyda ni nawr yn diwallu anghenion economi Cymru.

11,400 o gymwysterau

Mae 'na gydnabyddiaeth bod 'na ormod o gymwysterau ar hyn o bryd - hyd at 11,400 ohonyn nhw i gyd - yn cynnwys TGAU, Tystysgrif Addysg Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru, a rhai llai adnabyddus fel GNVQ, NVQ, BTEC, NSP, Tystysgrif Lefel Mynediad ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Wrth ddechrau'r adolygiad, fe ddywedodd Mr Evans mai symleiddio'r system oedd y nod.

Gan i'r TGAU gael ei gyflwyno nôl ym 1988 ar adeg gwbl wahanol yn economaidd yng Nghymru, mae cwestiynau hefyd wedi codi yn gofyn a yw'r cymhwyster yn gymwys ar gyfer galwadau byd modern yr 21ain Ganrif.

Mae cyflogwyr wedi dweud yn agored nad yw'r system yn cynnig y sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc Cymru wrth iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd.

Mae rhai wedi dweud nad yw disgyblion sy'n gadael yr ysgol o reidrwydd yn llythrennog na'n rhifog, hyd yn oed ar ôl ennill gradd A*-C mewn TGAU.

Mae'r adolygiad hefyd yn ystyried gwerth cymhwyster y Fagloriaeth Gymreig, cymhwyster sy'n agos at galon y Gweinidog Addysg.

Eisoes mae Leighton Andrews wedi dweud bod y Fagloriaeth yn cynnig rhywbeth ychwanegol i ddisgyblion wrth iddyn nhw ymgeisio am le prifysgol.

Wrth gyhoeddi'r cyfnod ymgynghori fe ddywedodd y panel adolygu bod mwyafrif yr adborth gawson nhw ynglŷn â'r Bac yn gadarnhaol, ond bod pryder am ba mor drylwyr yw'r cymhwyster.

Lloegr

Yn Lloegr, mae Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, eisoes wedi cyhoeddi newidiadau pellgyrhaeddol i'r system addysg.

Ym mis Medi, dywedodd y byddai'r TGAU yn cael ei ddisodli yn raddol yno - i'w olynu gan Dystysgrif Baccalaureate Lloegr.

Image caption Gall system arholiadau wahanol fodoli yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Y pynciau craidd fydd yn newid gyntaf - gyda disgyblion yn cymryd arholiadau Bacc Lloegr ym mhwnc Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth erbyn 2017.

Bydd un arholiad ar ddiwedd y cwrs, ac un bwrdd arholi yn darparu arholiadau'r pynciau craidd yma.

Yn gynharach yn y mis yma, fe gyhoeddodd Ofqual newidiadau i arholiadau Safon Uwch Lloegr hefyd.

Bydd disgyblion yno'n cymryd eu harholiadau yn yr haf, a bydd terfyn ar faint o weithiau y gall disgyblion ail-sefyll.

Daw cyhoeddiad yr adolygiad cymwysterau tra bod y ffraeo ynglŷn â chanlyniadau'r TGAU Saesneg Iaith eleni yn parhau i fudlosgi.

Yma yng Nghymru, cafodd bron i 2,400 o ddisgyblion raddau TGAU Saesneg Iaith gwell wedi i Mr Andrews, orchymyn bwrdd arholi CBAC i ail-raddio'r papurau.

Roedd o'r farn bod disgyblion Cymru dan anfantais oherwydd y dull marcio gwreiddiol gafodd ei ddefnyddio.

Ond chafodd papurau 84,000 o ddisgyblion Lloegr ddim eu hail-raddio am fod rheoleiddiwr byrddau arholi Lloegr, Ofqual, o'r farn bod y dull marcio gwreiddiol yn deg.

Ond, mae cymaint o ddicter am y pwnc dros Glawdd Offa nes bod disgwyl achosion llys i gael eu cynnal i ddatrys y mater.

Newid pwyslais

Mae Mr Andrews eisoes wedi cyhoeddi newidiadau i'r cwrs TGAU Saesneg Iaith y mae disgyblion yn ei astudio eleni.

Mae'r pwyslais wedi newid o fod yn 60% ar yr uned sydd yn cael ei asesu dan reolaeth i 40%.

Bydd yr arholiad allanol bellach werth 60% o'r cwrs, ac mae'r uned iaith lafar wedi'i ddileu.

Dim ond dyfalu llwyr fyddai awgrymu bod y llywodraeth yn ystyried cadw'r TGAU fel y mae yng Nghymru, ond newid y pwyslais.

Neu a fydd yr adolygiad wedi dod i'r casgliad fod brand y TGAU wedi'i ddifetha ormod wedi'r holl ffraeo diweddar am safonau a graddau, nes y bydd yn cael ei hepgor yng Nghymru hefyd.

Yn sicr - mae sail i'r dadleuon bod systemau addysg gwledydd Prydain eisoes yn rhy wahanol i'w cymharu.

Dyw disgyblion Yr Alban ddim yn astudio TGAU nag arholiadau Safon Uwch - mae ganddyn nhw eu system eu hun.

Er bod disgyblion Gogledd Iwerddon yn gwneud ar hyn o bryd, mae Gweinidog Addysg y wlad honno, John O'Dowd, wedi gorchymyn adolygiad o'r cymwysterau tebyg i'r un fydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghymru ddydd Mercher.

Eisoes mae'r Fagloriaeth Gymreig yng Nghymru.

Felly mae'n bosib iawn y bydd systemau addysg gwledydd Prydain yn amrywio hyd yn oed rhagor yn y dyfodol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.